Cymorth Iechyd Meddwl

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 2 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:36, 2 Mawrth 2021

Diolch i Dr Lloyd am y cwestiwn. Llywydd, mae'r capasiti i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl yng Nghymru yn dibynnu'n fawr ar ddull aml-asiantaeth. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r cymorth wedi cynyddu o fewn y gwasanaeth iechyd a hefyd drwy'r trydydd sector ac awdurdodau lleol.