Cymorth i Fusnesau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 2 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:01, 2 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, yn etholaeth yr Aelod, mae'r gronfa fusnes cyfyngiadau eisoes wedi talu grantiau gwerth bron i £2 filiwn i gannoedd o gwmnïau. Darparwyd dros £0.5 miliwn drwy'r gronfa lletygarwch, hamdden a thwristiaeth. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gynorthwyo busnesau yn ardal Merthyr Tudful a Rhymni wrth i ni adfer yn sgil y pandemig.