Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 2 Mawrth 2021.
Wel, Llywydd, diolchaf i Huw Irranca-Davies am y cwestiynau ychwanegol yna. O ran buddsoddi ymlaen mewn iechyd meddwl, bydd yn gwybod gosodwyd y gyllideb ddrafft gerbron y Senedd rai wythnosau yn ôl, ac yn y gyllideb derfynol a fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach heddiw, byddwn yn buddsoddi £42 miliwn arall mewn iechyd meddwl. Mae'r swm unigol mwyaf o arian yn ein cyllideb iechyd yn cael ei neilltuo i iechyd meddwl, a bydd hwn yn fuddsoddiad ychwanegol sylweddol yn y flwyddyn ariannol nesaf o ran cynnal y gwasanaethau hynny, a fydd, fel y dywedodd Dr Lloyd, mor angenrheidiol yn y misoedd i ddod.
O ran gwasanaethau amenedigol, rwy'n falch o allu cadarnhau i'r Aelodau ein bod ni'n dal i fod ar y trywydd iawn i wahodd y cleifion cyntaf i'r gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol preswyl newydd sy'n cael ei greu yn Ysbyty Tonna, nid nepell o etholaeth yr Aelod ei hun. Roedd hwnnw yn ymrwymiad a roddwyd gan fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething, y byddem ni'n creu cyfleuster newydd i gleifion mewnol ym maes iechyd meddwl amenedigol, a bydd hynny yn cael ei gyflawni cyn yr etholiadau, er gwaethaf yr heriau sylweddol iawn y mae coronafeirws wedi eu hachosi i'r adeiladwyr, sy'n gweithio yn galed iawn i wneud yn siŵr y gellir cwblhau popeth yn Ysbyty Tonna mewn pryd i groesawu'r cleifion cyntaf hynny.
Ac yn olaf, hoffwn longyfarch yr Aelod ar y digwyddiad a drefnwyd ganddo. Mae cael gwared ar stigma ym maes iechyd meddwl yn ymdrech gyson, onid yw? Nid yw'n frwydr yr ydym ni'n mynd i'w hennill drwy un digwyddiad neu un ymgyrch yn unig. Mae'n dal yn her wirioneddol i bob un ohonom ni, a gwn fod Aelodau ar draws y Siambr wedi chwarae eu rhan yn hyn i wneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i egluro i bobl bod siarad am iechyd meddwl, bod yn agored am brofiadau, cael y cymorth a all ddilyn oddi wrtho wedyn, dyna'r ffordd yr ydym ni'n erydu'r stigma parhaus y mae'r rhai sy'n dioddef o salwch meddwl yn parhau i'n hysbysu amdano, yn anffodus.