Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 2 Mawrth 2021.
Llywydd, rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni yn erbyn ein targed nesaf o ganol mis Ebrill ar gyfer grwpiau 5 i 9, yn amodol ar gyflenwad wrth gwrs. Nos Wener, roedd nifer y brechiadau a roddwyd gan ein GIG yn fwy na'r marc 1 filiwn. Mae pob un o'r 21 meddygfa deulu yn ardal Caerffili wedi cofrestru ac yn darparu'r brechlyn.