Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 2 Mawrth 2021.
Ddydd Gwener, fe gyhoeddwyd diweddariad i'n cynllun cenedlaethol ni. Er mai dim ond dau fis sydd wedi bod ers inni gyhoeddi'r cynllun ei hun, mae yna lawer wedi digwydd gyda'n rhaglen ni. Rwy'n awyddus i fwrw golwg yn ôl ar y cynnydd a rhoi mwy o wybodaeth am ein blaenoriaethau ni ar hyn o bryd ac i'r dyfodol. Yn y diweddariadau, fe wnes i gadarnhau y bydd dau ddyddiad ar gyfer targedau allweddol yn digwydd yn gynt erbyn hyn. Y cyntaf yw'r dyddiad targed ar gyfer cynnig y brechlyn i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth presennol—sef grwpiau 5 i 9. Rwyf wedi dweud mai ein nod ni nawr yw gwneud hyn erbyn canol mis Ebrill. Mae hynny'n bosibl nawr oherwydd fe fydd rhywfaint o'r cyflenwad a ddyrannwyd yn ein cyrraedd yn gynt na'r disgwyl. Rwyf wedi cadarnhau hefyd ein bod ni'n bwriadu cynnig y brechlyn i bob oedolyn sy'n gymwys erbyn diwedd mis Gorffennaf yn hytrach na'n dyddiad gwreiddiol yn nhymor yr hydref. Fel y dywedais i o'r dechrau, y cyflenwad yw'r ffactor sy'n ein cyfyngu. Mae gennyf i hyder yng nghyflymder a chapasiti ein model cyflawni ni, ac yn y tîm ardderchog o bobl sy'n gwneud y gwaith. Serch hynny, mae cwblhau'r gwaith erbyn y dyddiadau hyn yn parhau i fod yn amodol ar gyflenwad brechlynnau a phryd y bydd y cyflenwad hwnnw'n cyrraedd.
Yn y diweddariad, rwyf wedi cadarnhau ein dull ni o weithredu ar gyfer cam 2 ein rhaglen hefyd. Fel gyda'r cam presennol, fe fydd yn seiliedig ar gyngor annibynnol ac arbenigol y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Mae ein dull gweithredu ni yng Nghymru yn debyg i bob un o wledydd eraill y DU ac mae cymeradwyaeth iddo gan y pedwar prif swyddog meddygol ym mhob gwlad yn y DU. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi argymell parhau i gyflwyno'r brechlynnau ar sail oedran. Y rheswm am hynny yw mai oedran sy'n parhau i fod yn ffactor risg mwyaf arwyddocaol ac oherwydd mai model sy'n seiliedig ar oedran sy'n galluogi'r cyflymder mwyaf wrth weinyddu'r brechiadau sy'n weddill. Wrth argymell dull sy'n seiliedig ar oedran, fe nododd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu bwysigrwydd rhai ffactorau eraill, sef, yn benodol, rhyw, ethnigrwydd a statws economaidd-gymdeithasol. Fe fyddwn ni'n rhoi ystyriaeth i'r angen am wybodaeth glir a dibynadwy, sydd wedi'i thargedu, am y ffactorau hyn yn ein trefniadau ni ar gyfer cyfathrebu a gweinyddu yng ngham 2.
Wrth gwrs, mae'r Aelodau yn ymwybodol y bu llawer o ddiddordeb mewn blaenoriaethu ar sail galwedigaeth. Unwaith eto, fe roddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ystyriaeth i hyn. Eto i gyd, nid oedd digon o dystiolaeth gan y pwyllgor annibynnol ac arbenigol i'w argyhoeddi i gynghori pedair Llywodraeth y DU i flaenoriaethu galwedigaethau arbennig yn wahanol i'r boblogaeth yn gyffredinol. Fe gyfeiriodd hefyd at gymhlethdod gweithredu dull o'r fath a fyddai, yn anochel, yn arafu cyflymder y cyflwyniad.
Fe wyddom fod dros hanner y gweithwyr allweddol dros eu 40 oed. Felly, fe fydd dros hanner ein gweithwyr allweddol naill ai'n cael cynnig brechiad yn rhan o gam presennol y rhaglen, neu fe fyddan nhw'n cael eu galw i'w brechu yn rhan o'r grŵp blaenoriaeth cyntaf a argymhellwyd gan y cyd-bwyllgor ar gyfer cam 2—y rhai hynny sydd rhwng 40 a 49 oed. Rwy'n cydnabod y bydd rhywfaint o siom ynglŷn â hyn—y rhai sy'n gweithio ym maes addysg, gofal plant a gwasanaeth yr heddlu, ac yn y sector trafnidiaeth, er enghraifft. Rwyf hefyd wedi clywed rhai yn dadlau achos gweithwyr manwerthu a gweithwyr post, y mae pob un ohonyn nhw wedi bod wrth eu gwaith yn anterth y pandemig. Ond, yn syml, mae'r cyd-bwyllgor yn ein cynghori ni mai dull sy'n seiliedig ar oedran yw'r un symlaf, y cyflymaf i'w roi ar waith a'i gyflawni, a hwn yw'r dull tecaf o ymdrin â'r boblogaeth yn ei chyfanrwydd.
Roedd y diweddariad i'n strategaeth ni'n esbonio rhywfaint o'r dystiolaeth a ddaeth i'r amlwg ynglŷn ag effeithiolrwydd y brechlynnau hefyd. Mae'r ymchwil yn galonogol iawn ac mae hyn yn rhoi mwy o reswm inni obeithio ac ymlawenhau. Ond mae llawer mwy i'w wneud gyda'n rhaglen ni eto, gyda llawer mwy o ddosau cyntaf ac ail ddosau i'w gweinyddu. Rydym ni ar y trywydd cywir i raddau helaeth iawn, ond mae yna lawer o waith i'w wneud eto. Serch hynny, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau o bob ochr yn cydnabod cyflawniad campus ein rhaglen frechu ni yma yng Nghymru hyd yn hyn. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.