Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 2 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae ein cynllun ni i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, a gyhoeddwyd heddiw, yn ailddatgan ein hymrwymiad ni i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yn y newid i economi sero net yng Nghymru.
Mae ein hymrwymiad ni i fynd i'r afael â thlodi tanwydd wedi bod yn gyson dros yr hirdymor, gyda'n rhaglen Cartrefi Cynnes yn buddsoddi mwy na £350 miliwn dros 10 mlynedd, gan fod o fudd i dros 60,000 o aelwydydd. Mae'r ymrwymiad hirdymor hwn wedi bod o'r pwys mwyaf yn ystod y cyfnod hwyaf o gyni yn ein hanes ni, a orfodwyd arnom ni oherwydd y penderfyniadau a wnaeth Llywodraeth y DU.
Yn ystod y tymor Seneddol hwn, rydym ni wedi parhau i godi safonau o ran tai. Drwy'r rhaglen dai arloesol, rydym ni wedi buddsoddi mwy na £145 miliwn i siapio'r farchnad drwy greu datblygiadau tai newydd rhagorol, sy'n braf i fyw ynddyn nhw, sy'n garbon isel ac yn cefnogi cadwyni cyflenwi lleol. Yn wahanol i gostau ynni nodweddiadol o £1,300 y flwyddyn, mae biliau ynni blynyddol y cartrefi hyn wedi gostwng mor isel â £200. Mae'r hyn a ddysgwyd o'r cynllun hwn, ochr yn ochr â'n rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, yn cael ei integreiddio yn ein rhaglenni tai creiddiol i sicrhau mai hon yw'r ffordd y caiff pob cartref ei adeiladu a'i ôl-osod i'r dyfodol.
Mae gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd gennym yn 2018, wedi cefnogi'r gwaith o ehangu prosiectau ynni cymunedol sy'n caniatáu i ddinasyddion fod yn rhanddeiliaid yn eu cyflenwad ynni nhw eu hunain, yn ogystal â chynhyrchu trydan a gwres sy'n fforddiadwy, a charbon isel. Y flwyddyn nesaf, fe fyddwn ni'n diweddaru safon ansawdd tai Cymru i'w gwneud yn ofynnol i berfformiad ynni mewn cartrefi cymdeithasol gyrraedd y safon uchaf, sef gradd A, gan weithio gyda busnesau, y sector addysg ac undebau llafur i sefydlu canolfannau rhagoriaeth ar gyfer ôl-osod tai, i gefnogi'r broses angenrheidiol o sefydlu gweithlu sy'n alluog iawn i osod systemau ynni i'r tŷ cyfan, ac a achredwyd yn briodol.
Fis Hydref diwethaf, fe gyhoeddais i'r cynllun peilot cyngor a chymorth ynni domestig, ac mae hwnnw ar waith ers cryn amser erbyn hyn. Mae hyn yn adeiladu ar ein profiad ni o gyflawni gwelliannau effeithlonrwydd ynni ar gyfer gwella'r cymorth y gallwn ni ei gynnig, gan sicrhau y bydd pobl yn gweld y budd mwyaf posibl drwy fynd i'r afael â rhwystrau sy'n ymestyn y tu hwnt i berfformiad thermol eu cartrefi nhw eu hunain. Mae'r cynlluniau peilot hyn yn treialu dulliau o gefnogi aelwydydd sy'n agored i niwed ar gyfer sicrhau bod y bargeinion gorau o ran ynni ar gael, gan helpu pobl i roi'r gorau i ddefnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw a dechrau defnyddio mesuryddion deallus, a diogelu'r holl hawliau sydd ar gael iddyn nhw gan Lywodraeth y DU a chan gwmnïau ynni, yn ogystal â'r gefnogaeth a ddaw gan Lywodraeth Cymru. Mae'r holl fesurau hyn yn cynnal cyfiawnder cymdeithasol yn y newid i sero net. Maen nhw o fudd uniongyrchol i'r aelwydydd hynny sydd yn yr angen mwyaf, ac yn cyflawni mesurau ymarferol ar ran pawb yng Nghymru, a fyddai, fel arall, yn gorfod cael eu talu o gyllidebau cartrefi'r rheini na allant fforddio hynny o gwbwl.
Mae'r profiad a enillwyd o'r camau a gymerwyd dros yr hirdymor, a'r dulliau arloesol a ddatblygwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi llywio'r cynllun newydd a gyhoeddwyd gennym ni nawr i barhau i leihau cyfraddau o dlodi tanwydd dros y 15 mlynedd nesaf. Mae'r cynllun yn parhau i dargedu'r cymorth a ddarparwn ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn y cartref er lles aelwydydd incwm is sy'n byw mewn tlodi tanwydd, neu sydd mewn perygl o hynny. O fewn hyn, mae llawer o ganolbwyntio ar y cartrefi mwyaf aneffeithlon yn thermol, ac yn gyson â'n hymrwymiad ni i aer glân a chyfiawnder hinsawdd, gan weithio tuag at roi terfyn ar ein dibyniaeth ni ar losgi glo a gwresogi ag olew mewn dull sy'n cynnig cyfnod teg ar gyfer newid i'r rhai nad oes ganddyn nhw ddewis arall ar hyn o bryd.
Mae'r cynllun wedi elwa ar ymgynghoriad cyhoeddus eang, yn ogystal ag ymgysylltiad â sefydliadau trydydd sector yng Nghymru sy'n rhannu ein hymrwymiad cryf ni i'r mater hwn. Cafodd y cynllun ei lywio gan yr adroddiad tirwedd ar dlodi tanwydd yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru, a chan y gwaith a wnaeth ymchwiliad Pwyllgor y Senedd ar Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i dlodi tanwydd. Fe fydd yr ymgysylltu sydd wedi llywio'r gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn yn parhau wrth inni ddatblygu panel cynghori newydd, a thargedau interim a fydd yn atgyfnerthu ac yn canolbwyntio ein hymdrechion tuag at gyflawni'r rhwymedigaethau a ymgorfforwyd yn y gyfraith yn Neddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000. Cafodd ymgynghoriad ffurfiol pellach ei drefnu ar gyfer yr haf eleni i lywio'r broses o lunio'r iteriad nesaf o'r rhaglen Cartrefi Cynnes gan Lywodraeth newydd y Senedd nesaf.
Mae costau ynni wedi effeithio fwy byth ar aelwydydd yn ystod y misoedd diwethaf, o ganlyniad i'r gaeaf oeraf ers 10 mlynedd, ynghyd â'r angen i aros gartref i gadw Cymru'n ddiogel rhag effaith pandemig COVID-19. Yn y cyd-destun hwn, roeddwn i'n siomedig iawn o glywed bod y rheoleiddiwr ynni wedi cyhoeddi codiad o 9 y cant yn y cap ar y tariff domestig o fis Ebrill. Er bod rhywfaint o'r cynnydd hwn yn cael ei briodoli i brisiau ynni cyfanwerthol sy'n uwch, mae cyfran sylweddol ohono yn lliniaru'r ddarpariaeth y bu'n rhaid i gyflenwyr ynni ei gwneud ar gyfer ôl-ddyled i gefnogi talwyr biliau sy'n agored i niwed drwy gwrs y pandemig.
Mae'n siŵr bod y cynnydd mewn ôl-ddyledion ynni yn arwydd o'r pwysau sydd ar aelwydydd yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r DU. Bydd rhoi mwy o gostau ar dalwyr biliau sydd ar incwm is yn ychwanegu at y pwysau sydd ar filoedd o deuluoedd sy'n methu newid eu cyflenwyr i gael bargen well tra byddan nhw mewn dyled. Rwyf wedi galw ar y rheoleiddiwr a Llywodraeth y DU i gymryd camau i wrthdroi'r penderfyniad hwn, fel nad yw'r adferiad yn ein cymdeithas ni wedi effaith y pandemig yn cael ei danseilio. Ni ddylai'r gost o ddarparu system ynni sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain gael ei thalu'n ormodol gan y teuluoedd hynny sydd dan bwysau ac sy'n lleiaf abl i'w thalu.
Mae'r mater hwn yn tynnu sylw at ffaith mater o gyfiawnder cymdeithasol yw'r argyfwng hinsawdd. Mae'r cyngor a gawsom ni fis Rhagfyr diwethaf gan ein cynghorwyr statudol annibynnol ni, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yn pwysleisio hyd a lled y buddsoddiad sydd ei angen i ddarparu adeiladau di-garbon wrth gyflawni ein rhwymedigaethau i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Mae eu cyngor nhw'n cydnabod hefyd bod lleihad effeithiol mewn allyriadau yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan lle mae'r ysgogiadau a'r gallu ganddyn nhw i fuddsoddi ar raddfa o'r fath.
Mae'r cynllun gweithredu yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw yn nodi'r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael inni, gan wthio terfynau ein pwerau datganoledig i fod â swyddogaeth ragweithiol wrth sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yn y newid i sero net drwy ein camau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru. Diolch.