Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 2 Mawrth 2021.
Diolch, Mark Isherwood, am y rhestr yna o gwestiynau. O ran y targedau dros dro, rwyf, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r alwad am dargedau dros dro, ond rhaid imi ddweud, croesawyd y rhan fwyaf o gynigion yn y cynllun heddiw gan ein rhanddeiliaid. Credaf y byddai gosod targedau dros dro nawr, dros gyfnod byrrach, yn ymarfer ofer iawn, nes y gallwn ni ddeall effaith y pandemig yn well. Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd; mae'n amlwg ei fod wedi cynyddu, yn anffodus, nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd. Rwy'n cydnabod yn llwyr fod nifer o randdeiliaid wedi dweud y dylai'r cynllun gynnwys y targedau dros dro hynny er mwyn cyflawni ein rhwymedigaeth statudol.
Cafodd nifer o dargedau dros dro awgrymedig eu cyflwyno yn ystod yr ymgynghoriad, megis dileu tlodi tanwydd difrifol erbyn 2028, er enghraifft. Roedd un arall a awgrymodd erbyn 2030. Rydym ni wedi ystyried yr holl dargedau dros dro hyn. Heb amcangyfrifon tlodi tanwydd diwygiedig ac amcanestyniadau wedi'u diweddaru i benderfynu beth y gellir ei gyflawni erbyn 2035, byddai targedau dros dro a osodwyd yn yr hinsawdd bresennol yr ydym ni ynddi, rwy'n credu, yn ddamcaniaethol ac o bosibl yn afrealistig, tra bod y targedau yr ydym ni wedi'u gosod, rwy'n credu, yn gwbl realistig. Felly, yr hyn yr wyf wedi gofyn i'm swyddogion ei wneud yw gweithio gyda'r rhanddeiliaid—byddwch yn ymwybodol o'n grŵp cynghori newydd ar dlodi tanwydd—i ddatblygu'r targedau dros dro hynny. Yna gellir eu hystyried yng ngoleuni'r amcangyfrifon tlodi tanwydd newydd yr ydym ni yn eu paratoi. Bydd y targedau dros dro pan gânt eu datblygu wedyn yn cael eu hychwanegu at y cynllun.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at faterion iechyd, ac yn amlwg cawsom ein cynllun treialu cyflyrau iechyd, y byddwch yn ymwybodol ohono, ac ehangwyd hynny ym mis Gorffennaf 2019. Rydym ni wedi derbyn dros 8,600 o atgyfeiriadau gan Nest, ac mae mwy na 1,000 o gartrefi wedi elwa ar y cynllun. Yn rhan o'r cynllun treialu estynedig, ehangwyd y meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth hefyd i gynnwys pobl sy'n byw ar incwm is nad ydynt yn cael budd-dal prawf modd, sydd mewn perygl o salwch y gellir ei osgoi a achosir neu a waethygir drwy fyw mewn cartref oer, neu sy'n byw mewn cartref â sgôr tystysgrif perfformiad ynni o D neu waeth.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at gynllun talebau cartrefi gwyrdd Llywodraeth y DU, ac rydym ni'n cytuno'n llwyr fod buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn bwysig—yr allwedd i gefnogi'r adferiad economaidd wrth inni ddod allan o bandemig y coronafeirws, ynghyd â'r holl resymau eraill am hynny. Yr hyn nad ydym ni yn cytuno â Llywodraeth y DU yn ei gylch yw mai'r ffordd orau o wneud hynny yw drwy gynllun talebau tebyg i'r un y maen nhw wedi'i gyflwyno. Mae materion yn ymwneud ag ansawdd y gwaith y gellir ei gyflawni o fewn amserlen gyflenwi dynn iawn. Gallai hynny o bosibl beri helynt i ddeiliaid tai yn y dyfodol. Byddwch yn ymwybodol bod y cynllun talebau cartrefi gwyrdd wedi'i lansio yr haf diwethaf, gan y Canghellor, yn rhan o'r mesurau a gyflwynodd. Ond oherwydd oedi wrth brosesu ceisiadau a gallu'r gadwyn gyflenwi i gyflawni, mae'r cynllun bellach wedi'i ymestyn i fis Mawrth 2022.
Os edrychwch chi arno'n ofalus iawn, nid yw'r cynllun mor hael ag a adroddwyd gyntaf. Mae'n ofynnol i ddeiliaid tai, oni bai eu bod ar fudd-daliadau prawf modd, dalu traean o gost unrhyw fesur effeithlonrwydd ynni cartref a osodwyd o dan y cynllun. Mesurau eilaidd yn unig yw ffenestri a drysau, sydd wedi denu cymaint o sylw yn y cyfryngau, ac mae gwerth y cyfraniad wedi'i gyfyngu i'r gwerth a fuddsoddir mewn mesurau sylfaenol megis inswleiddio, er enghraifft, neu systemau gwresogi carbon isel. Felly, unwaith eto, byddai deiliad tŷ sy'n cael cyfraniad o ddwy ran o dair o £1,000 tuag at bwmp gwres ffynhonnell aer, er enghraifft, yn cael uchafswm o £1,000 tuag at ffenestri newydd. Felly, mae'n gynllun sy'n berthnasol i Loegr yn unig, ond byddwn yn eich annog i edrych yn fanylach arno, oherwydd, fel y dywedais, nid yw mor hael ag yr adroddwyd amdano yn gyntaf.
O ran y sector rhentu preifat, clywais eich galwadau chi ac eraill am neilltuo cyllid. Rydych chi yn llygad eich lle pan ddywedwch fod llawer—credaf ei fod tua 40 y cant—o stoc rhentu preifat yng Nghymru dros 100 mlwydd oed. Felly, gwyddom fod aelwydydd yn y sector rhentu preifat yn fwy tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd. Yn amlwg, mae tenantiaid yn gymwys i wneud cais am gyngor effeithlonrwydd ynni drwy'r cynllun Nyth, ac mae tua chwarter yr aelwydydd yn elwa ar y cynllun Nyth ar hyn o bryd.