Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 2 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron. Adolygwyd rheoliadau Rhif 5, fel y gŵyr yr Aelodau, ar 18 Chwefror a daethpwyd i'r casgliad y dylai Cymru gyfan aros ar lefel rhybudd 4. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bawb barhau i aros gartref. Rhaid i bob lleoliad manwerthu nad yw'n hanfodol, safleoedd lletygarwch, safleoedd trwyddedig a chyfleusterau hamdden aros ar gau. Fodd bynnag, rydym wedi diwygio'r rheoliadau cyfyngu i ganiatáu i uchafswm o bedwar o bobl o ddwy aelwyd wahanol wneud ymarfer corff gyda'i gilydd. Dylai'r rhai sy'n ymarfer gyda'i gilydd o wahanol aelwydydd wneud pob ymdrech i gadw pellter cymdeithasol. Rhaid i bobl barhau i ddechrau a gorffen ymarfer corff o'u cartref ar droed neu ar feic, oni bai bod gan unigolyn anghenion ychwanegol, oherwydd anabledd neu am resymau iechyd eraill. Yn ogystal, diwygiwyd y dynodiad chwaraeon elît yn y rheoliadau i gydnabod pobl sy'n ennill bywoliaeth o chwaraeon a dynodiadau a wneir gan gyrff chwaraeon mewn rhannau eraill o'r DU.
Rydym ni wedi nodi'n glir mai blaenoriaeth gyntaf ein Llywodraeth yw cael cynifer o blant a myfyrwyr yn ôl i ddysgu wyneb yn wyneb cyn gynted â phosibl. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn falch o weld plant y cyfnod sylfaen a'r rhai sy'n sefyll cymwysterau galwedigaethol blaenoriaethol yn dychwelyd ar 22 Chwefror. Mae'r Gweinidog Addysg wedi nodi uchelgais y Llywodraeth ar gyfer yr holl blant ysgol gynradd sy'n weddill a'r rhai sydd i fod i sefyll arholiadau eleni i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb ar 15 Mawrth.
Er gwaethaf cynnydd enfawr o ran cyflwyno brechlynnau a'r gwelliant yn sefyllfa iechyd y cyhoedd, rydym ni i gyd wedi gweld pa mor gyflym y gall y sefyllfa ddirywio. Yn wyneb amrywiolion newydd o'r coronafeirws, ni allwn ni ddarparu cymaint o sicrwydd na rhagweld i'r graddau ag yr hoffem ni. Ein dull o weithredu bydd lliniaru'r cyfyngiadau mewn camau graddol, gwrando ar y cyngor meddygol a gwyddonol, ac asesu effaith y newidiadau a wnawn gydag amser. Nid ydym ni eisiau codi gobeithion a disgwyliadau pobl yn rhy gynnar ac yna gorfod eu siomi. Byddwn yn rhoi cymaint o rybudd i bobl a busnesau ag y gallwn ni. Pan fyddwn yn credu ei bod hi'n ddiogel ac yn gymesur i liniaru'r cyfyngiadau, yna byddwn yn gwneud hynny.
Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn, sy'n parhau i chwarae rhan bwysig wrth addasu rheolau'r coronafeirws yma yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n effeithiol ac yn gymesur, a'u bod yn dal i fod yn rhan allweddol o sut y gallwn ni i gyd helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch.