Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 3 Mawrth 2021.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol. O oedran ifanc, dysgais wers werthfawr—nad yw mwy bob amser yn well. Efallai fy mod yn 12 oed pan gafodd fy ysgol gymunedol fach ei huno ag un lawer mwy o faint. Collasom y berthynas bersonol gyda'n hathrawon, a dod yn wyneb arall yn y môr o wynebau. Diolch byth, yn ôl bryd hynny, roedd uno o'r fath yn ddigwyddiad prin, a châi ysgolion cymunedol barhau i gynnig addysgu personol o safon. Yn anffodus, methodd Llywodraethau olynol o bob lliw gwleidyddol fuddsoddi yn yr ysgolion hynny, gan ganiatáu i lawer gormod ohonynt ddadfeilio. Er ein bod yn croesawu'r buddsoddiad diweddar drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, nid yw'n ddigon, ac mae'n rhy hwyr i lawer o'r ysgolion cymunedol a orfodwyd i gau nid am eu bod yn cynnig addysg wael—ddim o gwbl—ond am ei bod yn fwy costeffeithiol eu cau a throsglwyddo eu disgyblion i ysgol fawr.
Yn fy rhanbarth i, aeth cyngor Castell-nedd Port Talbot ati, gyda'u rhaglen strategol gwella ysgolion, sy'n deitl chwerthinllyd, i gau Ysgol Gyfun Cymer Afan ac ysgolion cynradd yng nghwm Afan i greu ysgol gydaddysgol newydd i 1,200 o ddisgyblion rhwng tair ac 16 oed. Aeth y cyngor yn groes i ddymuniadau disgyblion, rhieni a swyddogion etholedig. Ymladdodd y Cynghorwyr Scott Jones, Ralph Thomas a Nicola-Jayne Davies yn galed dros eu cymunedau. Aeth rhieni â'r cyngor i'r Uchel Lys hyd yn oed, a gwrthodwyd eu hachos, nid am nad oedd iddo unrhyw rinwedd, ond am fod y barnwyr wedi dyfarnu nad adolygiad barnwrol oedd y ffordd briodol o orfodi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Nid yw uno ysgolion fel hyn yn ymwneud â gwella addysg pobl ifanc; yn anad dim, maent yn ymwneud ag arbed arian. Caniatawyd i awdurdodau lleol rwygo'r galon o lawer o gymunedau er mwyn diogelu cyllidebau ac i atal gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd o waith atgyweirio rhag cronni. Mae'r ysgolion mawr hyn fel arfer yn bell o lawer o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan orfodi disgyblion i gymudo am amser maith. Nid yw'n anarferol i ddisgyblion wynebu dwy awr o deithio bob dydd. Mae hyn yn niweidiol i les pobl ifanc a gall effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol, ac mae hefyd yn gorfodi disgyblion i roi'r gorau i deithio llesol. Os yw'n cymryd awr mewn car neu fws, sut y gellid disgwyl i bobl ifanc gerdded neu feicio? Ac rydym mewn argyfwng hinsawdd, ond unwaith eto, rydym yn rhoi economeg o flaen yr amgylchedd. Er mwyn arbed costau, rydym yn gorfodi mwy a mwy o bobl ifanc i ddibynnu ar gludiant cerbydau, yn hytrach na theithio llesol sy'n ystyriol o'r blaned. Pa neges y mae hynny'n ei rhoi i genedlaethau'r dyfodol?
Rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y gwelliannau a gyflwynwyd ac i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr iawn.