Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 3 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain yw'r buddsoddiad mwyaf yn ein hystâd addysg ers y 1960au, ar ôl gweld buddsoddiad o £1.5 biliwn eisoes i wella'r amgylchedd dysgu i'n plant a'n pobl ifanc. Ac ers ei lansio yn 2014, fe'i gwelwyd yn cyflawni 170 o brosiectau newydd neu brosiectau adnewyddu o dan y don gyntaf o fuddsoddiad, ac mae 200 o brosiectau eraill wedi'u cynnig o dan yr ail don o fuddsoddiad, a ddechreuodd yn 2019. Yn wir, y flwyddyn ariannol hon—2020-21—o dan yr amgylchiadau anoddaf, gwelwn y gwariant blynyddol uchaf hyd yma o dan y rhaglen, sef bron i £300 miliwn o fuddsoddiad yn ein hysgolion a'n colegau.
A gaf fi ddechrau drwy groesawu'r pwyntiau a wnaeth Siân Gwenllian am ragoriaeth ym mhob math o ysgol—ysgolion bach, ysgolion mawr, cynradd, uwchradd ac yn ein hysgolion pob oed? A'r arweinyddiaeth honno ac addysgu rhagorol sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn. Ond byddwn yn dadlau bod gallu gwneud hynny mewn adeilad sy'n addas i'r diben hefyd yn bwysig iawn, ac yn anfon neges glir iawn i'n hathrawon a'n plant fod eu haddysg a'r gwaith sy'n digwydd yn yr adeiladau hynny yn eithriadol o bwysig i ni.
Nawr, nododd Caroline Jones fater cyllidebau cynnal a chadw awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion. A gaf fi ddweud, Caroline, uwchlaw a thu hwnt i raglen yr unfed ganrif ar hugain, bob blwyddyn y bûm yn Weinidog Addysg, rydym wedi gallu rhoi gwerth miliynau o bunnoedd o arian cynnal a chadw ychwanegol i awdurdodau lleol ledled Cymru allu cefnogi eu hysgolion? Yn wir, ddydd Llun yr wythnos hon yn unig, cyhoeddais fuddsoddiad o £50 miliwn i'w rannu rhwng awdurdodau lleol Cymru ar gyfer yr union ddiben hwn, sef cynnal a chadw ysgolion.
Nawr, mae llwyddiant rhaglen yr unfed ganrif ar hugain yn adlewyrchiad o'r gwaith partneriaeth sy'n allweddol i'w gyflawniad, ac mae'n bwysig fod ein rhanddeiliaid allweddol, awdurdodau lleol a cholegau yn strategol yn eu buddsoddiad, ac yn darparu'r ysgolion a'r colegau cywir yn y mannau cywir i ddiwallu anghenion cymunedol lleol. Ac mae'n bwysig fod y penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud er budd cymunedau lleol, a dyna pam nad ydym wedi bod yn rhagnodol, gan y gall modelau darparu ysgolion amrywio o un gymuned i'r llall. Fel y gwyddoch yn iawn, awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio lleoedd mewn ysgolion i sicrhau bod gan eu plant a'u pobl ifanc yr amgylchedd gorau posibl i ddysgu ynddo, a bydd pob un o'r penderfyniadau'n unigryw i'r cymunedau hynny, a chredaf mai ein awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall beth sy'n gweddu i anghenion eu dysgwyr.
Mae'r cod trefniadaeth ysgolion yn gosod safon uchel ar gyfer ymgynghori os oes newidiadau i'r patrwm darparu, ac mae gan bawb sydd â diddordeb gyfle i sicrhau bod eu barn yn hysbys ac yn cael ei chlywed, ac iddi gael eu hystyried pan argymhellir unrhyw newidiadau mawr i ysgolion. Mae'r cod yn sicrhau bod ystod o ffactorau'n cael eu hystyried, a buddiannau dysgwyr yn flaenaf yn eu plith, ond mae pellter teithio hefyd yn ffactor. Gwn fod yr Aelodau wedi mynegi pryderon fod rhai awdurdodau lleol yn cynnal ymgynghoriadau o dan y cod trefniadaeth ysgolion yn ystod y pandemig hwn, a hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at ganllawiau ychwanegol a gynhyrchwyd gennym i awdurdodau lleol ar sut y dylent fynd ati i gynnal ymgynghoriadau o'r fath yn ystod y pandemig hwn.
Nododd Siân Gwenllian fater y Mesur teithio gan ddysgwyr, ac mae'n iawn i dynnu sylw at yr adolygiad. Mae'n nodi mater diddorol o ran yr hyn a ystyrir yn ysgol addas a sut na chaiff iaith ei nodi yn yr adrannau penodol hynny. A gaf fi ddweud, roeddwn yn ddigon ffodus i fod ar y pwyllgor a edrychodd ar y Mesur hwnnw pan ddaeth gerbron y Cynulliad ar y pryd? Rwy'n credu bod y Dirprwy Lywydd ar y pwyllgor gyda mi bryd hynny, ac rwy'n siŵr y gallai'r Dirprwy Lywydd gadarnhau bod y mater hwn wedi'i drafod yn helaeth fel dull posibl o weithredu ond fe'i gwrthodwyd gan y Gweinidog ar y pryd, Ieuan Wyn Jones, fel rhywbeth amhriodol, ond mae'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn rhoi cyfle i ni ailedrych ar y penderfyniadau hynny.
Nawr, mae cod trefniadaeth ysgolion nid yn unig yn cydnabod y potensial ar gyfer cau ysgolion ond ar gyfer y sefyllfaoedd lle dylai ysgolion aros ar agor, ac mewn rhai amgylchiadau, mae'n fwy priodol i ysgolion presennol gael eu hadnewyddu, eu hailfodelu neu eu hymestyn, ac mae'r holl bethau hynny'n bosibl o dan raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fy mod wedi rhoi trefniadau arbennig ar waith, pan gaiff ysgolion gwledig eu hystyried, i sicrhau bod y penderfyniadau gorau'n cael eu gwneud ar gyfer dysgwyr yn y lleoliadau hynny.
Er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno rhaglen yr unfed ganrif ar hugain, rydym hefyd wedi ymgorffori ffrydiau sy'n edrych ar gyfleusterau gofal plant, darpariaeth cyfrwng Cymraeg—ac mae Suzy Davies yn gywir: pan feddyliaf am hanes datblygu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn nhref Aberhonddu, cawsant eu symud i ysgol a oedd wedi'i barnu'n anaddas ac wedi'i gadael gan y disgyblion cyfrwng Saesneg, a dyna lle roeddent. Nawr, yn ffodus, mae ganddynt adeilad newydd, ac yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog, rydym wedi darparu cyllid cyfalaf o 100 y cant i awdurdodau lleol adeiladu mwy o leoedd cyfrwng Cymraeg. Roedd mwy o alw nag y gellid darparu ar ei gyfer am y gronfa honno, ac rwy'n ystyried a allwn ddarparu cymorth pellach o'r math hwn i gefnogi ein nod i sicrhau 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae gennym hefyd ffrwd sydd wedi ceisio lleihau maint dosbarthiadau babanod a chefnogi addysg ffydd, a lle bo'n bosibl, cefnogi datblygiad canolfannau cymunedol ar safleoedd ysgolion. Ni cheir un model ariannu sy'n addas i bawb, felly mae gennym amrywiaeth o ffyrdd o gefnogi datblygiadau.
Rydym eisoes wedi gweld yr effaith gadarnhaol y mae ysgolion cynradd ac uwchradd newydd ac wedi'u hadnewyddu wedi'i chael ar ddysgwyr, gan wella eu profiad dysgu yn fawr. Ac rydym hefyd wedi gweld bod ysgolion pob oed yn fuddiol mewn rhai lleoliadau cymunedol, gan ganiatáu ar gyfer un tîm arwain a rheoli, i ddarparu mwy o gysondeb dysgu ac addysgu, a mwy o barhad ac agosrwydd i'r dysgwr. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod angen canllawiau polisi i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch creu ysgolion pob oed, a'r agweddau ar addysgeg sy'n gysylltiedig â hwy, sef llesiant ac arweinyddiaeth. Mae angen ystyried, cydnabod a chefnogi'r holl bethau hynny'n ofalus, a dyna pam rydym yn cefnogi'r rhwydwaith ysgolion pob oed i gyflawni ymchwil mewn ysgolion, ac wedi gwneud hynny ers 2019, ac arolwg thematig gan Estyn o ysgolion pob oed i ganolbwyntio ar fanteision a heriau'r model oedran hwnnw. Felly, nid ydym yn bwrw yn ein blaenau'n ddall; mae'r rhain yn fodelau newydd diddorol sy'n cael eu datblygu gan awdurdodau lleol o bob lliw gwleidyddol yng Nghymru, ac rydym yn gweithio gyda hwy i gael ymchwil, i ddeall manteision a heriau modelau o'r fath.
Gan fy mod yn cynrychioli etholaeth wledig, rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith y mae teithiau hir yn ei chael ar ein plant a'n disgyblion, ond am amryw o resymau, nid ystyrir bod cyflwyno terfyn uchaf ar amser teithio yn arbennig o ymarferol, fel yr awgrymodd Suzy Davies. Mae'n annhebygol iawn y bydd yr hyn a allai fod yn amser teithio damcaniaethol priodol mewn un awdurdod lleol yn berthnasol i bawb. Mae buddsoddi mewn ysgolion yn ymwneud â mwy na darparu adeiladau'n unig; mae'n ymwneud â'u gwneud yn addas i'r diben o ddarparu'r amgylchedd dysgu gorau, ac rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae buddsoddiad hyd yma wedi gwella cyfleusterau ac wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgu, addysgu a diwallu anghenion cymunedau lleol. Ac rwy'n falch iawn fod y dull partneriaeth, gyda'n hawdurdodau lleol a chyda'n colegau, yn gweithio'n dda ac yn rhoi hyblygrwydd iddynt nodi'r atebion dysgu gorau ar gyfer eu hardaloedd hwy. Ond diolch yn fawr am y cyfle i ddathlu llwyddiant rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Diolch yn fawr.