Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 3 Mawrth 2021.
Diolch, Lywydd. Nid fûm erioed mewn ysgol a gafodd ei huno, fel Caroline Jones, ond bûm mewn rhai a gafodd eu llosgi, ac mae hynny'n sicr yn ffordd o gael ysgol newydd—nid fy mod yn ei hargymell, wrth gwrs.
A gaf fi ddiolch i grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio am gyflwyno'r ddadl heddiw? Fel y gwelwch o'n gwelliant ein hunain, rydym yn cytuno â chryn dipyn o'r cynnig, ac mewn gwirionedd, dim ond 3(c) o'r cynnig sy'n peri trafferth i ni. Rwyf am ddweud o'r cychwyn ein bod yn gefnogol iawn i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ond mae gennym ni, fel y grŵp hwn, rai cwestiynau ynglŷn â'r modd y caiff ei gweithredu mewn rhai achosion. Hoffwn ddweud fy mod yn credu bod y gofyniad na ddylai disgyblion deithio mwy na 15 munud yn freuddwyd gwrach mewn rhannau o'r Gymru wledig heddiw, heb sôn am y dyfodol. Ond rwy'n credu y dylem edrych ar y profiad hwnnw i sicrhau nad yw ei anfanteision yn cael eu hailadrodd mewn ardaloedd mwy poblog.
Rwyf finnau'n rhannu drwgdybiaeth Caroline ynglŷn â sut y gellir defnyddio ceisiadau i'r rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain fel ymateb i gyllid cynnal a chadw annigonol i gynghorau, a hyd yn oed agendâu eraill, megis starfio darpariaeth chweched dosbarth. Gwelsom rywbeth tebyg i hynny gyda Sant Joseff ym Mhort Talbot—ysgol ffydd a oedd wedi cadw ei chweched dosbarth mewn bwrdeistref lle câi'r holl addysg Saesneg ôl-16 arall ei darparu mewn colegau addysg bellach.
Mae cymunedau a'u hanghenion yn newid oherwydd datblygiadau preswyl a'r ymgyrch dros fwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, felly mae angen ysgolion newydd wedi'u lleoli'n strategol, ond mae hynny'n effeithio ar gyllidebau awdurdodau lleol mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, ceir temtasiwn i adael i rannau mwy anodd o'r ystâd bydru'n araf, sy'n golygu lleihau costau cynnal a chadw, oherwydd mae ased cyfalaf newydd a ariennir yn rhannol yn swnio fel tipyn o wobr. Ac yna, yn ail, gall 22 awdurdod lleol sy'n ceisio cynllunio ar gyfer eu hôl troed eu hunain, ni waeth beth fo'r ymdrechion i gydweithio, ysgogi ymddygiad andwyol ac atal penderfyniadau mwy strategol ac effeithlon. Rwy'n meddwl yn benodol eto am gwm Afan, lle'r arweiniodd ad-drefnu at greu ysgol gynradd o 400 o ddisgyblion, a hynny heb fod mewn adeilad newydd hyd yn oed.
Nid oes amheuaeth y gall adeilad modern sydd wedi'i gynllunio'n dda gynorthwyo dysgu. Mae'n ddigon posibl y bydd dysgu cyfunol yn ystyriaeth ar gyfer cynllunio yn y dyfodol, ond mae'n rhaid i chi allu fforddio'r athrawon hefyd. Bydd yr Aelodau wedi clywed y Ceidwadwyr Cymreig yn galw droeon ar y Llywodraeth i wynebu'r her o ddiwygio cyllid. Gan fynd yn ôl at gynllunio a phwynt (d) ein gwelliant, rwy'n sylweddoli y dylai hygyrchedd fod yn rhan o gynllunio eisoes, ond tybed a yw rhai o'r atria gyda'r nenfydau uchel a welwn yn yr ysgolion newydd hyn mor wych â hynny i blant byddar. Ar bwynt gwahanol, darpariaeth toiledau—faint o feddwl a roddir i breifatrwydd ac urddas a nifer yr unedau, yn enwedig i ferched? 'Na' mawr i doiledau dirywedd fel mater o drefn.
Mae lleoliad yn cyfrif lawn cymaint â chynllun. Mae ysgol fawr Bae Baglan yn adeilad gogoneddus, ond bydd David Rees yn cofio'n dda y llwybr cerdded ofnadwy hwnnw i'r ysgol newydd o Gwrt Sart, nad oedd yn unrhyw fath o gymhelliad i deithio llesol. Ac yn olaf, ysgolion cyfrwng Cymraeg—maent yn aml yn cael eu gadael i feddiannu adeiladau llawer uwch eu cost, naill ai adeiladau o droad y ganrif neu rai sy'n syrthio'n ddarnau, fel Ysgol y Ferch o'r Sgêr yng Nghorneli yn fy rhanbarth i. Mae hynny'n ddatgymhelliad i deuluoedd sy'n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg ac mae'n haeddu sylw blaenoriaethol yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Diolch, Lywydd.