Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 3 Mawrth 2021.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio ar fuddsoddiad mewn ysgolion, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Felly, agor y bleidlais. Pawb wedi pleidleisio. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig saith, tri yn ymatal, 47 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.