Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 3 Mawrth 2021.
Lywydd, a gaf fi ddweud yn gyntaf fod awdurdodau lleol yn gwneud gwaith gwych wrth gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddarparu’r grantiau sy’n gysylltiedig ag ardrethi annomestig cyn gynted â phosibl? Ac mae'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu dros £13 miliwn i bron i 4,000 o fusnesau yn Sir Benfro hyd yn hyn. Yn ogystal, mae Busnes Cymru wedi ymdrin â dros 50,000 o ymholiadau ac wedi cael mwy nag 8 miliwn o ymweliadau â’u gwefan ers dechrau'r pandemig.