Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 3 Mawrth 2021.
Wel, a gaf fi ddiolch i Paul Davies am ei gwestiwn a dweud, yn gyntaf oll, fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n ddiweddar â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn uniongyrchol â chynghorau ledled Cymru ynghylch grantiau dewisol? Mae'r mater y mae Paul Davies yn ei godi wedi canolbwyntio fwyaf ar fusnesau llety hunanddarpar, ac mae meini prawf ar waith sy'n cael eu hawgrymu ar gyfer awdurdodau lleol, ac mae hynny’n gwbl eglur. Yn amlwg, hoffem weld pob busnes sy'n gymwys drwy'r meini prawf hynny'n derbyn yr arian a fyddai'n eu galluogi i oroesi drwy'r pandemig. Ond os oes unrhyw fusnes yn teimlo eu bod wedi cael eu trin yn annheg, os ydynt yn anfodlon â'r ffordd y mae eu hawdurdod lleol wedi dehongli'r meini prawf, dylent ystyried codi'r mater gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ond yn Llywodraeth Cymru, rydym yn parhau i fod yn gwbl ddiwyro yn ein haddewid i sicrhau y bydd unrhyw fusnes da yn 2019 yn fusnes da yn 2021, a dyna pam ein bod yn gwario mwy na £2 biliwn ar gefnogi busnesau drwy'r pandemig hwn.