Maes Awyr Caerdydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:01, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, a gaf fi groesawu'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r maes awyr, gan ddiogelu'r cannoedd o swyddi sy'n ddibynnol ar y maes awyr hwnnw, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn ardal Pontypridd a Thaf Elái? A ydych yn cytuno â mi fod y maes awyr yn bwysig i'r sector hedfanaeth a'r swyddi sydd gennym yn y sector hedfanaeth yn ardal ehangach de Cymru, ond yn enwedig mewn lleoedd fel Nantgarw ac ardal Pontypridd a Thaf Elái? A allech ymhelaethu ychydig efallai ar y cynlluniau ar gyfer y maes awyr yn y dyfodol, yn enwedig mewn perthynas â’r syniad o'i ymgorffori'n rhan o'n system drafnidiaeth integredig gyhoeddus i'w wneud yn fwy hygyrch ac mor effeithiol â phosibl wrth sicrhau twf economaidd yn y cyfnod ar ôl COVID?