Maes Awyr Caerdydd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:58, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Fe wyddoch fod Wizz Air, am resymau nad oes angen eu disgrifio, yn gohirio gweithrediad eu gwasanaethau newydd o Faes Awyr Caerdydd. Bydd y rhain yn wasanaethau rheolaidd newydd pwysig iawn pan fyddant yn cychwyn, a hoffwn gael sicrwydd y bydd pwy bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth Cymru ar ôl yr etholiad yn sicrhau bod y llwybrau hyn, yn bennaf i Sbaen, Portiwgal a Gwlad Groeg, yn cael eu nodi ar gyfer blaenoriaeth, er enghraifft os bydd angen inni sefydlu coridorau diogelwch i gysylltu gwledydd sydd â COVID dan reolaeth. Yn amlwg, bydd angen asesu wedyn a yw COVID dan reolaeth yn y gwledydd hynny, ond nid wyf am weld llawer o oedi oherwydd biwrocratiaeth. Mae'n gwbl amlwg fod rhai gwledydd yn debygol o fod yn agored i ni, fel partneriaid hedfan, yn gynt nag eraill.