Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 3 Mawrth 2021.
Lywydd, a gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiwn a chynnig diweddariad a gwybodaeth am yr A4042 yn Llanelen? Gwnaethom waith draenio, fel y gŵyr yr Aelod, yn ôl ym mis Mai 2020, i wella'r draenio presennol. Mae hyn wedi helpu gydag amser adfer ac ailagor cyflymach ar gyfer yr A4042 pan fo llifogydd ar y ffordd. Ac fel y dywedodd Nick Ramsay, yn gwbl gywir, yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaed gwelliannau draenio ar y tir cyfagos hefyd, sydd wedi bod o gymorth i leihau amlder a maint y llifogydd ar y darn hwn o'r ffordd. Nawr, gallaf ddweud bod y gwelliannau diweddar i systemau draenio tir yn y lleoliad hwn yn cael eu hasesu ar hyn o bryd i weld pa mor effeithiol oeddent i ymdrin â digwyddiadau llifogydd diweddar, a gallaf roi sicrwydd i’r Aelodau, pan fydd y wybodaeth hon ar gael, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny o fewn yr wythnosau nesaf, y bydd swyddogion wedyn yn penderfynu a oes angen gwaith lliniaru pellach.