Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 3 Mawrth 2021.
Mae ein cronfa ddiweddaraf i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu dros 22,000 o grantiau i fusnesau gogledd Cymru, gwerth cyfanswm o dros £69.5 miliwn, ac mae ein cronfa lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n benodol i'r sector hefyd wedi darparu £12.7 miliwn hyd yma i bron i 1,500 o fusnesau. Yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, cyhoeddais £30 miliwn arall ar gyfer y gronfa honno.