Adferiad Busnesau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:11, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, yn ychwanegol at fy ateb i Mark Isherwood, yng ngogledd Cymru, rydym hefyd wedi darparu £44.1 miliwn o gymorth i dros 2,500 o fusnesau o dan gamau 1 a 2 y gronfa cadernid economaidd, gan ddiogelu dros 20,000 o swyddi. Yng ngogledd Cymru hefyd, rydym wedi darparu £1.1 miliwn i 472 o fusnesau newydd.