Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 3 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr, Lywydd, a hoffwn ategu canmoliaeth Aelodau'r gwrthbleidiau i'ch gwaith ar yr economi, Weinidog, a'ch ymrwymiad tuag at ogledd Cymru'n arbennig, ac rwy'n eich canmol am hynny. Nawr, mae angen inni adeiladu nôl yn gryfach ac yn fwy gwyrdd, a bod yn uchelgeisiol yn ein cynlluniau ar gyfer adfer er mwyn creu swyddi yng Nglannau Dyfrdwy. Eleni, mae Shotton Steel yn 125 oed, ac rwyf eisiau iddo fod yn tyfu ac yn cyflogi pobl am y 125 mlynedd nesaf. Nawr, mae'n rhaid i hwn fod yn gyflogwr pwysig i genedlaethau'r dyfodol. Rwyf eisiau sicrhau mai Shotton Steel fydd ffatri carbon niwtral gyntaf y DU, ac rwyf eisiau iddi gynhyrchu'r dur ar gyfer cynnyrch gwyrdd y dyfodol. Felly, Weinidog, a wnewch chi barhau â'ch sgyrsiau gyda Tata Shotton am eu hyb logisteg i gyflenwi adeiladau modiwlaidd gwyrdd y dyfodol, a'u cefnogi i wneud y safleoedd yn garbon niwtral?