Busnesau Lletygarwch

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 2:09, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rydym wedi siarad o'r blaen yn y Siambr hon am y modd y mae'r diwydiant lletygarwch yn un o'r rhai mwyaf diogel rhag COVID yn ôl pob tebyg. Mae ffigyrau'n dangos bod pobl yn fwy tebygol o ddal COVID mewn ysbyty nag mewn tafarn neu fwyty. Weinidog, cafwyd buddugoliaeth i synnwyr cyffredin pan gollodd Llywodraeth y DU achos a gyflwynwyd gan ddiwydiant lletygarwch Manceinion mewn perthynas â'r cyfyngiadau a osodwyd ar y diwydiant. Sut y bydd y dyfarniad hwnnw'n effeithio ar eich dull chi o ailagor y sector lletygarwch yng Nghymru? Diolch.