Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 3 Mawrth 2021.
Nid wyf yn siŵr fy mod yn cydnabod bydolwg yr Aelod, lle dylai pobl Cymru fod yn ddiolchgar am gael buddsoddiad o'u trethi eu hunain yng Nghymru, ond mae'n debyg ei bod hi'n fydolwg. Mae'n well gennyf fi sicrhau bod dau beth yn digwydd. Yn gyntaf, ar feysydd nad ydynt wedi'u datganoli, fod Llywodraeth y DU yn rhoi'r gorau i wneud cam â Chymru, felly boed yn seilwaith ynni neu seilwaith digidol neu seilwaith rheilffyrdd, byddai'n dda pe bai Llywodraeth y DU yn buddsoddi ar sail gymaradwy yng Nghymru. Ar faterion sydd wedi'u datganoli, fel y soniais yn gynharach, mae arnaf ofn mai symiau bach o arian yw'r rhain, ac nid ydynt yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n adlewyrchu buddiannau Cymru. Nid gwneud pwynt cyfansoddiadol rwyf i, fel mae'n digwydd; rwy'n gwneud pwynt am fuddsoddi effeithiol yn economi Cymru, a dyna'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud fel Llywodraeth Cymru gyda busnesau Cymru, ac mae arnaf ofn nad oes dim o'r gwaith y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud wedi elwa o hynny. Rwy'n croesawu buddsoddiad yng Nghymru. Byddwn yn croesawu llawer mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU yng Nghymru, i'w ddefnyddio ar feysydd a gadwyd yn ôl yn fwy effeithiol ganddynt ac ar feysydd datganoledig gan Lywodraeth Cymru.