Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:41, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

[Anghlywadwy.]—ar gyfer rhaglenni peilot yn unig y rhoddwyd cyllid y Trysorlys a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar gyfer cronfa ffyniant gyffredin y DU, a nodwyd yn glir o'r cychwyn cyntaf y byddai mwy o gyllid i ddilyn. Fel y dywedodd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin fis diwethaf:

Rydym eisoes wedi'i gwneud yn glir iawn ac wedi dangos y bydd y swm o arian a gaiff ei wario yng Nghymru pan ddaw'r gronfa ffyniant gyffredin i fodolaeth yn union yr un fath â'r swm o arian a gâi ei wario yng Nghymru o'r Undeb Ewropeaidd, neu fwy na hynny.

Mae wedi'i gofnodi'n dweud yn Nhŷ'r Cyffredin hefyd y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wrth i ni ddatblygu fframwaith buddsoddi'r gronfa ar gyfer ei gyhoeddi.

Pa gam, felly, y mae ei hymgysylltiad wedi'i gyrraedd erbyn hyn? Ac o ystyried y newyddion y bydd y gronfa ffyniant gyffredin hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gyda chynghorau Cymru, y deellir eu bod wedi croesawu hyn, pa ymgysylltiad sydd rhyngoch a hwy ynglŷn â hyn?