Busnesau Rhyngwladol

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:00, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Mae’r cytundeb masnach a chydweithredu wedi mynd i’r afael â rhywfaint o’r ansicrwydd sydd wedi atal buddsoddiad ers y refferendwm yn 2016. Ond nid yw Cymru a’r DU bellach yn cynnig mynediad di-rwystr at farchnad sengl o 450 miliwn o bobl, a gallai hynny amharu, i ryw raddau, ar fewnfuddsoddiad o dramor.