Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 3 Mawrth 2021.
A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei gwestiwn pwysig iawn? Credaf ei fod yn nodi mater pwysig iawn ac yn gosod y cyfeiriad teithio cywir yn ei gwestiwn. Drwy'r strategaeth ryngwladol y soniais amdani gynnau, rydym wedi dweud yn glir iawn mai'r hyn rydym yn ei geisio yw buddsoddiad sy'n ychwanegu gwerth, os mynnwch, i economi Cymru, yn y ffordd y soniodd Gweinidog yr economi amdani yn ei gwestiynau yn gynharach. Byddwn yn parhau â'r gwaith o fynd ati’n rhagweithiol i hyrwyddo'r rhan o'r economi a all ein helpu i gyflawni hynny. Ac yn ychwanegol at rai o'r sectorau y soniais amdanynt eisoes yn fy ymateb i Michelle Brown, boed yn ynni’r môr neu dechnoleg feddygol, ceir nifer o feysydd lle gallwn ddenu buddsoddiad, ac rydym yn parhau i fod yn awyddus i wneud hynny, ond yn y ffordd yr awgryma ei gwestiwn, er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad hwnnw'n ychwanegu gwerth, ac felly'n gallu cyflawni gweithgarwch economaidd hirdymor, cynaliadwy a chynhyrchiol yng Nghymru a swyddi da.