Hawliau Cerddorion yng nghyswllt yr UE

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:07, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Ni ddylid diystyru’r problemau sy'n wynebu cerddorion a pherfformwyr fel problemau cychwynnol; maent yn ganlyniad i’r cytundeb masnach a chydweithredu a negodwyd gan Lywodraeth y DU. Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cymru Greadigol a grwpiau rhanddeiliaid eraill i ddeall yr effeithiau’n iawn ac i ymateb iddynt.