Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 3 Mawrth 2021.
Diolch, Weinidog. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â ColegauCymru, sy'n poeni y bydd y costau a'r amserlenni arfaethedig ar gyfer dysgwyr galwedigaethol o'r UE sy'n dymuno gwneud profiad gwaith di-dâl byr yn y DU yn gwneud lleoliadau o'r fath yn anodd iawn. Os ydynt ar waith ar gyfer dysgwyr yr UE sy'n dymuno dod i'r DU, gallent hefyd fod ar waith ar gyfer dysgwyr o Gymru sy'n dymuno mynd ar leoliad yn Ewrop. Gwnsler Cyffredinol, byddwn yn croesawu eich barn ar y sefyllfa hon ac ar unrhyw drafodaethau rydych wedi'u cael i sicrhau nad yw hyn yn wir, ac y gall y mathau hyn o leoliadau barhau.