Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 3 Mawrth 2021.
Mae'r rheoliadau hyn yn anghymesur. Cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru—cyngor yr arbenigwyr, wrth gwrs—i Lywodraeth Cymru oedd dynodi 8 y cant o Gymru yn barth perygl nitradau. Mae'r Llywodraeth wedi anwybyddu hynny ac wedi mynd am ffigur o 100 y cant. Pam fod hynny'n broblemus? Wel, am eich bod yn cosbi pawb, y diwydiant cyfan, gyda’r gofyniad i ffermydd ym mhob rhan o Gymru, hyd yn oed y rhai nad ydynt wedi torri unrhyw reolau, mewn dalgylchoedd nad ydynt efallai wedi cael unrhyw ddigwyddiadau llygredd, dalu degau o filoedd o bunnoedd, arian nad yw ganddynt mewn gwirionedd, ar seilwaith nad yw, i rai, yn angenrheidiol pan edrychwch ar y dystiolaeth.
Bydd canlyniadau amgylcheddol anfwriadol hefyd wrth gwrs. Mae defnyddio dyddiadau’r calendr yn hytrach nag amodau tywydd i bennu pryd y gellir gwasgaru slyri yn hurt. Mynegodd y Gweinidog ei hun bryder ynghylch y dull hwn ychydig fisoedd yn ôl pan ofynnais iddi amdano. Ac mae eraill, fel yr amgylcheddwr amlwg Tony Juniper, sy'n cadeirio Natural England—mae wedi dweud nad yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae'n gynnig afresymol a fydd yn achosi cynnydd enfawr mewn nitradau ar adegau penodol o'r flwyddyn, a allai wedyn, wrth gwrs, arwain at broblemau llygredd newydd mewn ardaloedd lle nad oes problemau ar hyn o bryd.
Yn ôl amcangyfrifon y Llywodraeth ei hun, bydd y costau cyfalaf ymlaen llaw i’r diwydiant ffermio allu cydymffurfio â'r rheoliadau hyn rywle rhwng £109 miliwn a £360 miliwn. Mae'r £360 miliwn hwnnw £30 miliwn yn fwy na chyfanswm cyllideb polisi amaethyddol cyffredin blynyddol Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Mae hyd yn oed amcangyfrif isaf Llywodraeth Cymru yn nodi y byddai’r gost i ffermydd Cymru yn 42 y cant o gyfanswm incwm ffermio Cymru yn 2019. Mae llawer o ffermydd eisoes yn gweithredu ar y nesaf peth i ddim, a bydd hyn yn eu gwthio dros y dibyn. Mae colli'r ffermydd hyn yn golygu colli rhywfaint o'n capasiti cynhyrchu bwyd wrth gwrs, sy'n golygu lefelau uwch o fewnforio bwyd, gyda chost amgylcheddol bellach ynghlwm wrth hynny. Dywed un prosesydd llaeth fod eu dadansoddiad yn dangos y bydd traean o’u ffermydd llaeth o bosibl yn rhoi’r gorau i gynhyrchu. Bydd colli'r ffermydd teuluol bach a chanolig hynny’n golygu twf yn nifer yr unedau ffermio mawr, gan arwain at fwy o ffermio llaeth ar raddfa ddiwydiannol. Sawl gwaith y mae'r Aelodau yn y Senedd hon wedi dadlau yn erbyn hynny?
Wrth gwrs, nid ffermwyr yn unig fydd yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i gydymffurfio â’r rheoliadau hyn; mae 1,000 o ffermydd cyngor yng Nghymru, a bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ddod o hyd i hyd at £36 miliwn i dalu am y seilwaith newydd angenrheidiol. Ddoe ddiwethaf, bu’n rhaid i gyllideb y Llywodraeth ddod o hyd i fwy o arian ar gyfer cronfa galedi’r awdurdodau lleol. A yw cynghorau mewn difrif yn mynd i allu dod o hyd i ddegau o filiynau o bunnoedd o arian ychwanegol, pan fo'r Llywodraeth eisoes yn gorfod camu i mewn i dalu am wasanaethau craidd? Felly, gwyddom beth fydd yn digwydd; bydd mwy o ffermydd cyngor yn cael eu gwerthu, gan leihau ymhellach y cyfle i bobl ifanc a newydd-ddyfodiaid ddechrau ffermio.
Nid yw dynodi Cymru gyfan yn barth perygl nitradau yn ateb syml. Mae adroddiad monitro gan CNC wedi dangos mai dau yn unig o 11 o safleoedd parthau perygl nitradau dynodedig sydd wedi dangos gwelliant mewn lefelau llygredd. Ac mae tystiolaeth o wledydd eraill yn gymysg, a dweud y lleiaf. Mae 100 y cant o Ogledd Iwerddon wedi bod yn barth perygl nitradau ers degawd, ond hyd yn oed heddiw, mae ansawdd eu dŵr yn salach na’n dŵr ni. Felly, y cwestiwn y dylem fod yn ei ofyn i'n hunain yma yw pam fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu rheoliadau yma nad ydynt yn cyflawni canlyniadau yn rhywle arall, yn enwedig pan wyddom fod dulliau eraill yn cael effaith gadarnhaol. Un cynllun o'r fath yw cynllun y faner las. Roedd y Gweinidog yn ymwybodol ohono sawl blwyddyn yn ôl, ond mae bellach, yn hwyr iawn, yn dangos diddordeb. Mae'r rhaglen honno wedi bod ar waith ers pum mlynedd. Mae wedi llwyddo i leihau, ar gyfartaledd, dros 1 dunnell y fferm o'r nitradau sy'n gadael ffermydd y rheini sy'n rhan o'r cynllun, ac mae hynny'n llawer gwell na gwaith modelu‘r parthau perygl nitradau, sy’n nodi y gellid sicrhau gostyngiad o 10 y cant yn lefel y nitradau. Pam y mae Llywodraeth Cymru yn bodloni ar ddull torri a gludo yma mewn perthynas â pharthau perygl nitradau, yn hytrach nag adeiladu ateb a wnaed yng Nghymru, wedi'i deilwra ar gyfer ein hamgylchiadau ein hunain?
Gwyddom fod cyfreithwyr NFU Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ddoe, yn nodi eu pryderon ynghylch cyfreithlondeb y penderfyniad i gyflwyno'r rheoliadau hyn. Yn amlwg, nid wyf yn disgwyl i'r Gweinidog wneud sylwadau ar hynny am resymau cyfreithiol, ond credaf ei fod yn rhoi rheswm arall i Lywodraeth Cymru gymryd cam yn ôl ac ailedrych ar ei chynigion. Er mwyn sicrhau mwy o gonsensws a deddfwriaeth fwy effeithiol ar y mater pwysig hwn, credaf y dylai'r rheoliadau hyn, am y tro, gael eu tynnu'n ôl gan y Llywodraeth neu eu dirymu gan y Senedd. Os bydd hyn yn digwydd, rwy’n addo amser ac ymrwymiad fy mhlaid i weithio gyda’r Llywodraeth ar gyflwyno set fwy soffistigedig o reoliadau wedi’u targedu cyn diwedd y flwyddyn. Mae pob un ohonom eisiau mynd i'r afael â llygredd dŵr. Mae pob un ohonom eisiau mynd i’r afael â phroblem y mae angen mynd i’r afael â hi unwaith ac am byth, ac mae angen inni reoleiddio er mwyn gwneud hynny. Ond nid y set benodol hon o reoliadau sydd ger ein bron heddiw, am y rhesymau rwyf wedi'u hamlinellu, yw'r ffordd orau o gyflawni hynny, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy nghynnig. Diolch.