5. Cynnig i ddirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:24, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddechrau, efallai, drwy chwalu ychydig o fythau. Nid yw Plaid Cymru o blaid derbyn y status quo ar ansawdd dŵr. Rydym yn cefnogi camau gweithredu a rheoliadau cryfach ar lygredd. Felly, mae unrhyw un sydd am ddisgrifio'r ddadl hon mewn ffordd sy'n awgrymu fel arall yn camarwain pobl yn fwriadol. Rydym yn llwyr gefnogi'r angen i fynd i'r afael â llygredd dŵr, ac rydym wedi ymrwymo i gyflwyno rheoliadau i wneud hynny. Y broblem yma, serch hynny wrth gwrs, yw nad y rheoliadau hyn a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yw'r ateb cywir.