Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 3 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Bydd sicrhau Cymru fwy gwyrdd yn dibynnu ar ymrwymiad ac arbenigedd ein ffermwyr. Mae ganddynt rôl unigryw yn cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel ar yr un pryd â diogelu cynefin, amddiffyn ein priddoedd gwerthfawr, dal carbon a glanhau ein haer a'n dŵr er budd iechyd pobl, ac iechyd ein planed wrth gwrs. Mae'r angen a welwn am y rheoliadau llygredd amaethyddol hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i degwch. Mae'n fater o degwch i genedlaethau'r dyfodol, fel bod ganddynt fynediad at eu treftadaeth naturiol, yr ymddiriedir ynom i'w diogelu. Mae'n fater o degwch i'r ffermwyr sydd eisoes yn mynd y tu hwnt i ofynion rheoleiddio, gan feithrin enw da i'r sector am gynnal y safonau amgylcheddol uchaf. Ni fu'r enw da hwn erioed yn bwysicach nag y mae ar hyn o bryd, er mwyn bodloni disgwyliadau ein partneriaid masnachu rhyngwladol a'n cwsmeriaid yn y DU.
Mae'r enw da hwn a'n treftadaeth naturiol dan fygythiad o ganlyniad i lygredd amaethyddol. Rwy'n anghytuno â Janet Finch-Saunders sy'n dweud bod y rheoliadau'n cosbi ffermwyr. Fe ddywedaf wrthi pwy sy'n cael eu cosbi: ffermwyr sydd eisoes yn ymgymryd ag arferion da o ran rheoli maethynnau, atal llygredd o'u ffermydd eu hunain, ac sy'n gorfod gwylio wrth i eraill wneud y lleiafswm posibl, gyda chost unrhyw ddifrod yn cael ei drosglwyddo i eraill—costau trin dŵr yn cael eu hychwanegu at filiau cwsmeriaid, y gost i enw da'r sector, a'r pris rydym i gyd yn ei dalu yn sgil colli pysgod, pryfed, cynefinoedd sensitif a chymeriad ein cefn gwlad. Mae hyn wedi bod yn falltod ar enw da ffermio yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
Ers imi ddod i'r swydd, rwyf wedi ceisio creu cyfle i'r diwydiant amaethyddol ac eraill gamu ymlaen a mynd i'r afael â'r broblem heb reoleiddio pellach. Yn anffodus, ni fu gostyngiad cyson mewn llygredd amaethyddol. Ers 2001, cafodd bron i 3,000 o achosion o lygredd acíwt yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth eu cadarnhau ledled Cymru, gan barhau ar gyfradd gyfartalog o fwy na thri achos bob wythnos dros y tair blynedd diwethaf. Yn 2020, pan ymchwiliwyd i lai o ddigwyddiadau yr adroddwyd yn eu cylch oherwydd pandemig COVID, roedd nifer yr achosion yn dal yn uwch nag yn 2015, 2016 a 2017. Cofnodwyd mwy o ddigwyddiadau yn 2018 nag unrhyw flwyddyn arall yn yr 20 mlynedd diwethaf. Hyd yn oed gyda'r sylw presennol yn y cyfryngau ers imi gyhoeddi'r rheoliadau hyn ar 27 Ionawr, mae CNC wedi derbyn 49 o adroddiadau llygredd yn ymwneud ag amaethyddiaeth, ac ar 1 Mawrth, roedd 20 ohonynt wedi'u cadarnhau. Dyma'r digwyddiadau a gadarnhawyd lle mae CNC wedi gallu cadarnhau digwyddiadau yr adroddwyd wrthynt yn eu cylch. Fodd bynnag, digwyddiadau llygredd acíwt yw'r enghraifft fwyaf gweladwy o lygredd amaethyddol. Mae llygredd gwasgaredig yn digwydd dros amser ac mae'n niweidio ansawdd dŵr, yn cyfrannu at lygredd aer ac yn cynyddu allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae gwybodaeth anghywir am y rheoliadau wedi bod yn achosi straen diangen i ffermwyr, a bydd llawer ohonynt, ymhell o gael eu gorfodi allan o fusnes fel y mae'r wrthblaid wedi'i honni, mewn sefyllfa dda i fodloni'r safonau rheoleiddio newydd ac elwa o reoli maethynnau yn well ar eu ffermydd. Gall ffermwyr sy'n ansicr sut y gallant gydymffurfio ofyn am gymorth a chyngor drwy wasanaeth cynghori Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru, gan gynnwys sut i gael gafael ar y cymorth ariannol sydd ar gael. Mae'r rheoliadau wedi'u targedu at weithgareddau sy'n peri risg o lygredd, lle bynnag y maent yn digwydd.
Yn hytrach na safon sylfaenol, dywed y gwrthbleidiau y dylem fabwysiadu un dull o fynd i'r afael â llygredd ffosfforws yn y naw ardal cadwraeth arbennig afon, dull gwahanol i'r cyrff dŵr sy'n methu cyrraedd safonau'r gyfarwyddeb fframwaith dŵr, un arall ar gyfer trothwyon nitradau, ac un arall eto ar gyfer dalgylchoedd yr effeithir arnynt gan ddigwyddiadau llygredd acíwt ac yn y blaen—prosbectws ar gyfer dryswch ac oedi. Ni fyddai dull gweithredu o'r fath yn gwneud dim i wella llygredd aer na lleihau allyriadau; nid ydynt yn ddewisiadau amgen ymarferol nac ystyrlon. Mae gosod safon sylfaenol yn golygu y gall y disgwyliadau fod yn glir, gan ei gwneud yn haws i ffermwyr fod yn hyderus eu bod yn cydymffurfio, a'i gwneud yn haws i wasanaethau cynghori a'r rheoleiddiwr gynorthwyo ffermwyr i gydymffurfio. Lle mae gweithgareddau'n rhai risg isel, megis mewn perthynas â ffermio defaid, mae'r gofynion yn fach iawn. Bydd y gofynion yn cael eu cyflwyno dros amser, a'r cam cyntaf fydd ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr ddilyn arferion da o ran pryd a ble i wasgaru slyri, fel y mae llawer eisoes yn ei wneud.
Yn nadl y Torïaid yr wythnos diwethaf, ceisiais ddod o hyd i gonsensws gyda phleidiau eraill, o ystyried yr argyfyngau hinsawdd a natur, y gallem gydnabod mai'r cam cyntaf, fel y nodir yng nghyngor y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, fyddai gwneud yr arferion da presennol yn safonau sylfaenol ledled Cymru. Ni allai Plaid Cymru na'r Torïaid dderbyn yr angen i weithredu, gan ddangos eu diffyg ymwybyddiaeth o ddisgwyliadau'r cyhoedd. Byddai'n well ganddynt anwybyddu'r cyngor gwyddonol a chaniatáu i Gymru fod yn lloches olaf i lygredd amaethyddol. Rwy'n ddiolchgar i'r ffermwyr sy'n cefnogi'r camau rydym yn eu cymryd i wneud gwahaniaeth, ac i randdeiliaid eraill, fel yr Ymddiriedolaeth Natur a grwpiau genweirio, sydd wedi mynegi'r hyn y gellir ei gyflawni, a pham ei fod mor bwysig, mewn ffordd mor glir.
Mae'r rheoliadau llygredd amaethyddol yn un cam, ond yn gam pwysig iawn, yn y daith tuag at afonydd glanach, aer glanach, a sicrhau mai yng Nghymru y ceir y ffermio mwyaf ystyriol o natur a'r hinsawdd yn y byd. Ar ôl heddiw, bydd llawer mwy i'w wneud o hyd i gyflawni ein huchelgeisiau i sicrhau economi sero-net, sy'n gadarnhaol o ran natur, lle caiff buddion ein treftadaeth naturiol gyfoethog eu rhannu'n deg. Gobeithio y bydd yr holl Aelodau o'r Senedd heddiw yn dangos eu hymrwymiad i'r uchelgeisiau hynny yn y penderfyniad a wnânt. Pleidleisiwch yn erbyn y cynnig i ddirymu, pleidleisiwch yn erbyn gostwng safonau amgylcheddol yng Nghymru, pleidleisiwch yn erbyn gohirio ein hymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, a phleidleisiwch yn erbyn llygredd amaethyddol yng Nghymru. Diolch.