Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 3 Mawrth 2021.
Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad byr yn y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n credu ei bod hi'n anodd gwneud cyfiawnder ag adroddiad mor eang yn y ddadl hon. Roeddwn am fynd ar drywydd rhai materion; yn gyntaf, y cyswllt clir iawn a wnaed yn yr adroddiad â'r angen parhaus i weld gweithredu ar 'Busnes Pawb', adroddiad atal hunanladdiad y pwyllgor iechyd, ac adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Roeddwn am gofnodi fy niolch eto i Dr Dai Lloyd am y bartneriaeth gref sydd wedi'i sefydlu rhwng y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a fy mhwyllgor i. Mae'n gwbl hanfodol nad ydym yn tynnu ein traed oddi ar y sbardun am eiliad ar gyflawni amcanion y ddau adroddiad. Mae'r ddau yn adroddiadau nodedig. Ymgynghorwyd yn eang ar y ddau, nid yn unig gyda phobl â phrofiad bywyd, ond â rhanddeiliaid arbenigol, a chredaf fod y ddau adroddiad wedi ennyn llawer iawn o gefnogaeth. Felly, byddwn yn annog pob cam posibl i barhau i flaenoriaethu'r ddau ohonynt.
Roeddwn am ganolbwyntio ar ddau argymhelliad penodol, mewn gwirionedd, sef argymhelliad 6 ac argymhelliad 7. Mae'r rhain yn ymdrin â'r ffaith bod y pwyllgor yn pryderu'n fawr fod yna ddiffyg cysylltiad rhwng y sicrwydd a roddwyd i'r pwyllgor fod gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau yn ystod y pandemig a'r hyn a glywsom ar lawr gwlad. Dywedodd Gweinidogion a phennaeth y GIG yng Nghymru wrthym yn gyson fod gwasanaethau iechyd meddwl wedi'u dynodi'n wasanaethau hanfodol. Ond yr hyn a glywsom gan randdeiliaid ar lawr gwlad oedd bod pobl wedi cael trafferth cael mynediad at y gwasanaethau iechyd meddwl sydd eu hangen arnynt, felly rwy'n cytuno'n llwyr â chanfyddiadau'r pwyllgor fod gwir angen i Lywodraeth Cymru ymchwilio i hyn a sicrhau bod y dulliau sy'n cael eu defnyddio i wneud yn siŵr bod pobl yn cael gwasanaethau yn cynrychioli profiad bywyd pobl ar lawr gwlad mewn gwirionedd. Rwy'n talu teyrnged i sefydliadau fel Mind Cymru, sy'n gwneud llawer o waith ar gasglu profiadau bywyd, ond rwy'n credu ei bod hefyd yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar bobl sydd â phrofiad bywyd am eu profiad yn ystod y pandemig.
Fel rydym wedi dweud wedyn yn argymhelliad 7, rydym wedi galw am flaenoriaethu gwasanaethau iechyd meddwl. Un o nodau cyson y ddau bwyllgor oedd sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Ac eto, yr hyn a welsom yn y pandemig, sy'n eithaf dealladwy mewn argyfwng iechyd corfforol, oedd newid i wasanaethau iechyd meddwl ar unwaith, oherwydd symudodd popeth ar-lein, ac nid yw ar-lein yn gweithio i bawb. Nid yw galwadau ffôn yn gweithio i bawb, ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol wrth symud ymlaen ein bod yn sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd meddwl yn ddigon gwydn i sicrhau'r cydraddoldeb hwnnw yn y math o argyfwng a wynebwn.
Roeddwn eisiau dweud rhywbeth am ofal mewn argyfwng, oherwydd mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at yr adolygiad o fynediad brys, sy'n ddogfen ddiddorol iawn, 'Tu hwnt i'r alwad', a byddwn yn annog yr Aelodau i edrych arni. Mae'n disgrifio'r oddeutu 900 o alwadau y dydd a wneir i'r heddlu, damweiniau ac achosion brys, a gwasanaethau brys eraill i bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl. Ond yr hyn y byddwn yn ei annog gan y Llywodraeth yw gweithredu brys ar ran arall y jig-so hwnnw, oherwydd os yw pobl yn ffonio'r heddlu ac yn mynd i'r adrannau damweiniau ac achosion brys mewn niferoedd o'r fath, rydym wedi methu'n druenus gyda darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer pobl yn gynharach. Ni allwn ddibynnu ar—