6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Ymchwiliad i effaith COVID-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 — Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:26, 3 Mawrth 2021

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wel, dyma ddadl wych. Buaswn i, fel y mae eraill wedi ei grybwyll, wedi hoffi petai'r ddadl yn gallu mynd ymlaen yn hirach, ond rydyn ni lle rydyn ni, fel rydym yn ei ddweud. Mae hwn wedi bod yn adroddiad manwl iawn; roedd yna gryn dipyn o waith wedi mynd i mewn i'r adroddiad yma a'r adroddiadau eraill yr oedden ni wedi cyfeirio atyn nhw—adroddiadau blaenorol y pwyllgor iechyd, yn enwedig ar atal hunanladdiad, ac, wrth gwrs, yr adroddiadau bendigedig gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o dan gadeiryddiaeth fendigedig Lynne Neagle. Hoffwn dalu teyrnged i waith Lynne Neagle fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw. Mae'r cydweithio wedi bod yn arbennig a dwi'n credu bod y ddau bwyllgor wedi gallu cyflawni llawer mwy na'r ddau bwyllgor ar wahân, megis, wrth gydweithio yn yr un un meysydd, ond gyda gwahanol oedrannau. Achos doedd yna ddim modd, y rhan fwyaf o'r amser, i'r pwyllgor iechyd ymgymryd â gwaith i wneud efo phlant a phobl ifanc. Roedd hi'n bwysig bod rhywun yn gwneud hynna, a dwi'n ddiolchgar iawn i Lynne Neagle a'i phwyllgor am hynna.

Wrth gwrs, mae'r her iechyd meddwl, o ganlyniad i'r pandemig yma, yn her enfawr—rydyn ni'n deall hynna. Ond mae eisiau pwysleisio hynna, achos dydyn ni ddim wedi gweld ei hanner e mor belled. Yn ogystal, wrth gwrs, mae yna lefel o bryder naturiol mewn unrhyw gymdeithas sy'n deillio o ryw drychineb torfol sydd wedi digwydd. Dyna beth rydyn ni'n ei wynebu rŵan; mae yna drychineb torfol yn dal i ddigwydd. Yn naturiol, mae yna lefel o bryder mewn unrhyw unigolyn, sydd ddim, o reidrwydd, yn mynd ymlaen i aflonyddu ar ei iechyd meddwl, ond mae angen delio efo fo ta beth, a'r ffordd naturiol o wneud hynny, fel mae eraill wedi'i ddweud—a diolch i David Melding am ei gyfraniad urddasol, aeddfed ynglŷn ag edrych yn ehangach yn nhermau iechyd cyhoeddus, ymarfer corff, ac ati—yw i ddelio efo'r lefel o bryder yna sydd ddim yn cwympo i mewn i ddiffiniad 'afiechyd meddwl' hefyd. Mae pawb yn teimlo hynna. Dwi'n diolch i Rhun ap Iorwerth hefyd am ei gyfraniad doeth, fel arfer, ac am bob cefnogaeth fel aelod o'r pwyllgor.

I grynhoi ac i gloi, dwi'n diolch i Eluned Morgan, y Gweinidog, am ei chyfraniad ac am ei doethineb hithau hefyd wrth ymateb mor ystyrlon i'n hargymhellion ni. Dwi hefyd, mae'n rhaid imi ddweud, yn croesawu ei phenodiad hi yn y lle cyntaf, sydd yn adlewyrchiad o bwysigrwydd yr agenda hon. Mae'n bwysig ein bod ni'n mynd i'r afael efo'r holl heriau. Gaf i gloi drwy ddiolch i'n clercod a'n hymchwilwyr am eu gwaith dygn a manwl, diflino bob amser? Mynd i'r afael—mae'r casgliadau hynny'n barod o'n hadroddiadau blaenorol ni fel pwyllgor, a phwyllgor Lynne Neagle, ac mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw. Diolch yn fawr iawn i bawb. Cefnogwch y cynnig.