Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 3 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wrth gwrs, nid oes amheuaeth ym meddwl unrhyw un ynglŷn â chyfraniad gweithwyr allweddol yn ystod y pandemig. Y bobl sydd wedi ein cadw i fynd drwy gydol y pandemig ar ei waethaf yn y gwahanol ffyrdd rydym wedi'u profi—gweithwyr nid yn unig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ond ym maes gweithgynhyrchu, yr heddlu, y lluoedd arfog, addysg, trafnidiaeth, cyfleustodau, Llywodraeth leol a chenedlaethol, gweithwyr post, manwerthu hanfodol, cynhyrchu a darparu bwyd, mae'r holl bobl hyn wedi ein bwydo, gofalu amdanom, ein haddysgu, ein cadw mewn cysylltiad ac yn ddiogel. Ac maent yn haeddu ein diolch a'n cydnabyddiaeth, nid yn unig nawr ond y tu hwnt i'r pandemig, ac mae brechu yn rhan o'r ffordd allan o'r cyfnod anodd hwn a'r cyfyngiadau angenrheidiol sydd wedi'u gosod ar ein bywydau bob dydd. Ac mae'r arwyddion yn galonogol, gyda'r ymchwil a gyhoeddwyd gan Public Health Scotland yr wythnos diwethaf, a Public Health England, yn dangos effaith gadarnhaol sylweddol o frechu, ac astudiaeth AstraZeneca-Rhydychen hefyd ar arwydd calonogol fod y brechlyn yn lleihau trosglwyddiad.
Nawr, byddai'n wych pe gallwn roi'r amddiffyniad hwn i bawb dros nos, ond gwyddom na allwn wneud hynny a'n bod yn wynebu'r angen i flaenoriaethu. Ac fel y gwyddom i gyd, roedd cam cyntaf y broses o gyflwyno'r brechlyn yn galw am frechu'n bennaf yn ôl oedran a gwendid clinigol. Erbyn diwedd cam 1, ymhen tua saith wythnos, byddwn wedi diogelu'r grwpiau lle mae 99 y cant o'r holl farwolaethau wedi digwydd hyd yma. Gwn fod llawer o alwadau wedi bod am flaenoriaethu'r brechlyn ar gyfer grwpiau galwedigaethol penodol yn y cam nesaf, yn enwedig yr heddlu ac athrawon, ond eraill hefyd, fel y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cydnabod. A deallaf y rhesymau pam y mae achos yn cael ei wneud dros frechu'r grwpiau hynny neu weithwyr allweddol eraill. Yn ddiweddar, dywedodd yr Athro Wei Shen Lim, cadeirydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu annibynnol ac arbenigol:
Mae brechiadau'n atal pobl rhag marw a'r strategaeth bresennol yw blaenoriaethu'r rhai sy'n fwy tebygol o gael canlyniadau difrifol a marw o COVID-19.
Dyna yw prif nod ein rhaglen frechu COVID o hyd. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu—y JCVI—wedi adolygu'r dystiolaeth er mwyn deall y cysylltiad rhwng galwedigaeth a risg o ddod i gysylltiad â COVID-19 a niwed yn sgil hynny, a cheir ffactorau risg penodol ar gyfer mwy o risg o niwed difrifol, ac maent yn cynnwys oedran hŷn, gorgynrychiolaeth o rai cyflyrau iechyd isorweddol mewn rhai mathau o swyddi, amddifadedd economaidd-gymdeithasol, maint aelwydydd ac anallu i weithio gartref. Mae risg alwedigaethol sy'n gysylltiedig â chanlyniadau gwaeth gyda COVID-19 wedi effeithio'n bennaf, yn y dystiolaeth a ystyriodd JCVI, ar ddynion rhwng 40 a 49 oed, o blith yr holl bobl y tu allan i'r naw grŵp blaenoriaeth presennol. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod cyfuniad o ffactorau, nid galwedigaeth yn unig, yn arwain at ganlyniadau gwaeth mewn rhai grwpiau. Dylem atgoffa ein hunain fod y canlyniadau gwaeth hynny'n cynnwys pobl yn marw; rydym wedi gweld lefelau marwolaeth sylweddol hyd yma.
Tynnodd cyngor y JCVI sylw hefyd at y ffaith y byddai darparu rhaglen sy'n targedu grwpiau galwedigaethol yn gymhleth. Mae'r GIG yn gwybod pa mor hen ydych chi, ond nid yw'n debygol o wybod pa swydd rydych chi'n ei gwneud gyda'r un lefel o gywirdeb. Mae'r JCVI wedi dod i'r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth i gynghori pedair Llywodraeth y DU i flaenoriaethu rhai grwpiau galwedigaethol yng ngham nesaf y rhaglen frechu. Nodwyd mai model sy'n seiliedig ar oedran oedd y cyflymaf ar gyfer cyflwyno'r brechlyn a diogelu'r nifer fwyaf o bobl yn y cyfnod byrraf. A'n dealltwriaeth gyffredinol yw bod tua hanner y gweithwyr allweddol nad ydynt wedi cael eu brechu eto yn y grŵp oedran 40 i 49. Mae'n anodd anghytuno'n wrthrychol â rhaglen sydd wedi'i chynllunio i frechu'r nifer fwyaf o bobl yn y cyfnod byrraf er mwyn sicrhau bod y rhan fwyaf o bobl yn cael eu diogelu. A'r hyn na ddylem ei anghofio yw bod y JCVI, ar gyfer cam cyntaf y rhaglen, eto wedi cynghori y dylid blaenoriaethu yn seiliedig ar oedran a gwendid clinigol. Mabwysiadwyd y cyngor hwnnw gan bob un o bedair gwlad y DU—pedair Llywodraeth wahanol yn y DU, pedwar Gweinidog iechyd gwahanol, ag iddynt gefndir a theyrngarwch gwleidyddol gwahanol iawn, ond rydym i gyd wedi cytuno ar natur y cyngor a gawn a sut i ddarparu'r effaith fwyaf ar gadw ein poblogaethau'n ddiogel. Ac mae llwyddiant y rhaglen frechu yn anwadadwy ac yn amlwg yn nata Public Health Scotland a Public Health England a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.
Nawr, rwy'n cydnabod rhai o'r pwyntiau sydd wedi'u gwneud mewn sylwadau. Nid oeddwn yn cytuno'n llwyr â'r modd y cyflwynodd Mr Isherwood ei fersiwn o'r hyn sydd wedi digwydd, oherwydd mewn gwirionedd, mae swyddogion yr heddlu wedi bod ar restrau diwedd dydd ar gyfer darparu brechlyn. Yn wir, rwyf wedi cael sgyrsiau gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu mewn rhannau eraill o Gymru sydd wedi nodi bod gan Heddlu Gogledd Cymru niferoedd uwch o bobl wedi eu brechu yn y cyflenwad diwedd dydd hwnnw. Ac rydym wedi egluro'r sefyllfa i'w gwneud yn glir y gall cyflenwad diwedd dydd—i sicrhau nad yw'r brechlyn yn cael ei wastraffu, y gall heddlu a gweithwyr allweddol eraill wrth gwrs gael hwnnw. Nid wyf yn meddwl bod hwnnw'n fater dadleuol nawr. Ac mae—. Bydd Mr Isherwood, wrth gwrs, yn ffurfio'i farn ei hun, ond nid wyf yn credu bod y ffeithiau'n cefnogi ei fersiwn ef o bethau.
Hefyd, mae angen imi wneud y pwynt hwn yn gyffredinol. Nid mater o ofyn i bobl flaenoriaethu rhywfaint yw hyn, oherwydd os ydych yn blaenoriaethu unrhyw grŵp, rydych yn dadflaenoriaethu pobl eraill. Ac mae swyddog heddlu yn eu 20au mewn llai o berygl yn gyffredinol na heddwas yn eu 40au, yn union yr un fath ag athro yn eu 20au, o'u cymharu ag athro yn eu 40au, neu weithiwr swyddfa bost yn eu 20au neu yn eu 40au. Rydym yn ymdrin â'r dystiolaeth ar sut i ddiogelu pobl rhag niwed, a byddai angen tystiolaeth gref a diamheuol arnaf i wyro rhag cyngor y JCVI annibynnol ac arbenigol. Credaf fy mod yn gwneud yr hyn y dylai ac y byddai unrhyw Weinidog iechyd cyfrifol yn ei wneud i gadw eu gwlad yn ddiogel ynghanol pandemig sy'n dal i fod gyda ni: dilyn y dystiolaeth, y wyddoniaeth a'r cyngor iechyd cyhoeddus i achub cynifer o fywydau â phosibl. Dyna'n union y byddaf yn parhau i'w wneud, ac edrychaf ymlaen at wneud hynny gyda thîm rhagorol o bobl ledled y wlad i helpu i gadw Cymru'n ddiogel a chyflawni'r rhaglen frechu hon cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.