8. Dadl ar ddeisebau ynghylch datblygu Canolfan Ganser Felindre newydd: P-05-1001 'Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig', P-05-1018 'Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol'

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 3 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:01, 3 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Mae'n un anarferol gan ei bod yn dwyn ynghyd dwy ddeiseb sy'n gwrth-ddweud ei gilydd, dwy farn wrthgyferbyniol ar yr un mater. Ac mae'n fater pwysig iawn, dyfodol gwasanaethau canser yn ne-ddwyrain Cymru, a beth bynnag fo'r materion penodol sydd ar waith yma, waeth pa mor gryf yw'r farn am nifer o wahanol agweddau ar hyn, mae ansawdd y gwasanaethau canser hynny o'r pwys mwyaf.

Gwasanaethais ar y Pwyllgor Deisebau am gyfnod, ond mae hynny beth amser yn ôl, felly nid wyf wedi cael unrhyw ymwneud uniongyrchol â'r deisebau hyn fel y cyfryw, ond dros y misoedd diwethaf, yn fy rôl fel Gweinidog iechyd a gofal yr wrthblaid ar ran Plaid Cymru, rwyf wedi cael fy lobïo gan ddwy ochr y ddadl, rwyf wedi siarad â phobl, wedi gwrando ar ddadleuon gan gefnogwyr a gwrthwynebwyr y cynnig sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd, ac rwyf wedi cyfarfod ag arweinwyr clinigol ac uwch reolwyr yn Felindre. Byddwn i'n dweud fy mod wedi ceisio dysgu cymaint ag y gallaf am y materion sydd yn y fantol yma.

Felly i ba gasgliad y deuthum iddo? Rwyf eisoes wedi nodi fy marn, mewn gwirionedd, mewn gohebiaeth â nifer o bobl sydd wedi cysylltu â mi yn y cyfnod cyn y ddadl hon, ond yn gyntaf, rwyf am nodi beth nad wyf am wneud sylwadau yn ei gylch: nodaf yr ymgyrch yn lleol ar y cynnig i ddatblygu ar y darn hwnnw o dir a elwir yn ddolydd gogleddol, ond yn fy rôl iechyd a gofal, nid wyf yn credu mai fy lle i yw gwneud sylwadau ar y mater cynllunio, os mynnwch, a'r effaith ar amwynder lleol a'r math hwnnw o beth; materion i'r boblogaeth leol yw'r rheini. Rwyf hefyd wedi nodi gwahanol ddadleuon amgylcheddol cysylltiedig a gyflwynwyd. Unwaith eto, deallaf fod y rheini'n bwysig iawn i lawer o bobl, ond nid ydynt yn rhai y dylwn i wneud sylwadau arnynt mewn gwirionedd.

Felly, mae fy niddordeb yma yn nyfodol gwasanaethau canser a sicrhau bod y gwasanaethau gorau posibl yn cael eu datblygu, y canlyniadau gorau posibl yn cael eu ceisio, a'u cydbwyso â pha mor gyflym y gellir cyflawni gwelliannau, ac rwy'n sicr yn gobeithio y gall pawb gytuno mai dyna sydd bwysicaf yma.

Mae'r gwasanaethau a ddarperir yn Felindre a gwaith y staff, eu hymroddiad a'u sgiliau, yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr, ac yn sicr nid wyf am eiliad yn amau cred arweinwyr clinigol yn Felindre fod y cynllun sydd ganddynt ar y bwrdd yn un cadarn, ei fod yn rhan o'r hyn a allai drawsnewid gwasanaethau canser yn y rhanbarth. Rwyf wedi siarad â hwy am y cynlluniau; ni fyddent yn cefnogi cynlluniau nad oeddent yn credu y byddent yn gweithio, ac maent yn bobl sydd wedi rhoi eu bywydau proffesiynol i ymladd canser, ac yn bobl rwy'n eu parchu'n fawr.

Ar yr un pryd, rwyf hefyd wedi clywed a darllen digon o bryderon ac wedi cael digon o ohebiaeth gan bobl—gan gynnwys clinigwyr a gweithwyr iechyd, yn y gorffennol a'r presennol—i ddeall bod pryderon gwirioneddol ynglŷn â'r dewis o fodel clinigol, fod achosion angerddol yn cael eu gwneud mewn perthynas â'r ddadl honno rydym wedi'i chlywed yn cael ei hamlinellu am ddarpariaeth bwrpasol yn erbyn cydleoli gyda gwasanaethau acíwt. Codwyd amheuon ynghylch gwahanol rannau o'r broses a ddilynwyd, ynglŷn â thryloywder ar nifer o adegau yn y broses, ynghylch elfennau o'r ffordd y mae'r cynnig wedi'i ariannu, ac o'u cymryd gyda'i gilydd, credaf fod yr anghydweld sylfaenol ar strategaeth ar un lefel a drwgdybiaeth ar lefel arall yn niweidiol i'r uchelgais cyffredinol rwyf am i bawb ei gefnogi, fel y dywedais, os yw hynny'n bosibl. Yn y cyd-destun hwnnw, credaf o ddifrif y dylai'r Llywodraeth gamu i mewn i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu hymchwilio'n gyflym iawn, mewn ffordd y gwelir ei bod yn wirioneddol annibynnol, a dylid gwneud hynny'n ddi-oed, fel y dywedais.

Mae canser yn cyffwrdd â phawb ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae ceisio sicrhau bod ein gwasanaethau canser y gorau y gallant fod o fudd i bawb ble bynnag yr ydym yng Nghymru. Yr hyn rwyf am ei weld yma yw prosiect sy'n rhoi gwasanaethau Felindre ar sylfaen gadarnach ar gyfer y dyfodol yn cael ei gyflymu, ac yn bendant nid ei arafu.