Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 10 Mawrth 2021.
Ond mae'r cwestiynau i'r ddadl hon fel a ganlyn: os nad oedd methiant gweinydd, pam nad oes cofnod o weithredoedd y meddyg a fynychodd ward gyswllt A3 o'r uned dibyniaeth uchel pan aeth Kelly mor sâl, y meddyg a achubodd fywyd Kelly yn y pen draw? Dim cofnod. Pam nad oes siartiau cyffuriau ar gael rhwng 10 a 22 Tachwedd? Ble mae canlyniadau'r profion gwaed, y rhai roedd y nyrs—hefyd o'r uned dibyniaeth uchel, a oedd yno gyda'r meddyg—wedi mynd yn ôl i'r uned dibyniaeth uchel i'w profi ac i gael y canlyniad cyflym nad oedd gan Kelly ocsigen yn ei gwaed? Pam y cymerodd 10 mlynedd i Garry a Kelly cyn iddo gael ei gadarnhau, fel roeddent bob amser wedi credu, fod mewnosodiad ffug yn y nodiadau ysgrifenedig? Pam y bu'n rhaid i Garry a Kelly frwydro i gael hyn a phob sgrap o wybodaeth hanfodol?
Cafodd y cwestiynau hyn a chwestiynau manwl eraill a oedd heb eu hateb eu trosglwyddo i gadeirydd y bwrdd iechyd ar y pryd ar 26 Gorffennaf 2019 gan Garry pan gyfarfu â hi, ac eto mae'r teulu'n dal i aros am ymatebion manwl. Gwahoddwyd Garry a Kelly ar un pwynt i fynychu'r ysbyty i archwilio'r cofnodion meddygol gwreiddiol, a gwnaethant hynny. Fodd bynnag—ac mae hyn yn bwysig—mewn achos llys, dywedodd bargyfreithiwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wrth y barnwr nid unwaith ond ddwy waith fod Kelly a'i theulu wedi cael cynnig cyfle i fynychu'r ysbyty ac archwilio'r cofnodion ond eu bod wedi gwrthod. Ac eto, mae'r teulu wedi cael negeseuon e-bost mewnol, dim ond ar ôl cais rhyddid gwybodaeth, yn cadarnhau eu presenoldeb i archwilio'r cofnodion—camgymeriad ar ben camgymeriad a chelu'r gwir. Roedd y teulu wedi gwneud eu cais yn wreiddiol i'r llysoedd ar y sail bod Kelly wedi cymryd gorddos ei hun, dywedwyd wrthynt, o forffin wrth ddefnyddio'r peiriant analgesia a reolir gan gleifion, yr IVPCA, ar ôl cael eu harwain i gredu mai dyma'r rheswm dros ddirywiad Kelly tra oedd ar ward gyswllt A3. Fodd bynnag, mae'r peiriannau hyn wedi'u gosod i gloi, i sicrhau na all cleifion gael gorddos, a chadarnhawyd yn ddiweddarach nad oedd gorddos morffin wedi digwydd.
Gadewch imi droi yn awr at fater cydsynio i driniaeth. Byddai Kelly, yn 16 oed, wedi cael ei hystyried yn gymwys i lofnodi'r ffurflen gydsyniad a ddefnyddiwyd ar adeg ei llawdriniaeth yn 2005, fel yr amlinellwyd yn y canllaw ar gael cydsyniad i gynnal archwiliad neu ddarparu triniaeth yn 2002. Fe'i cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n darparu polisi cydsyniad enghreifftiol. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Mae 'cydsyniad' yn golygu cytundeb claf i weithiwr iechyd proffesiynol ddarparu gofal. Gall cleifion nodi caniatâd yn ddi-eiriau (er enghraifft drwy gyflwyno eu braich i'w pwls gael ei fesur), ar lafar, neu'n ysgrifenedig. Er mwyn i'r cydsyniad fod yn ddilys, rhaid i'r claf'— ymhlith meini prawf eraill, mewn print trwm— fod wedi cael digon o wybodaeth i allu ei roi.
Ar ôl rhoi ei chaniatâd i'r llawdriniaeth i dynnu'r PCC, tynnwyd sylw at fater cydsyniad gwybodus dilys ac arwyddocâd sgan MRI yn ystod yr achos sifil dilynol pan wnaeth Ysbyty Athrofaol Cymru honiad fod y cnawdnychiant i chwarren bitwidol Kelly yn cael ei ystyried yn 'anosgoadwy'. Felly, os na ellid ei osgoi, pam na chafodd Kelly a'i theulu erioed wybod y gallai'r cymhlethdod posibl hwn godi o'r driniaeth a drefnwyd ar ei chyfer, yn enwedig o ystyried ei symptomau acromegali wrth iddi gael ei derbyn i'r ysbyty? Ar ôl gwneud cwyn wedyn i'r adran safonau proffesiynol ynglŷn ag annigonolrwydd ymchwiliad yr heddlu—a oedd wedi cymryd dwy flynedd a naw mis—cafodd Garry a Kelly afael ar gyfweliad nas datgelwyd, a'u galluogodd i weld adroddiad yr ymchwiliad. Roedd yn cynnwys ymateb gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol i gŵyn Garry am ddau feddyg. Dyma un o'r dogfennau y buont yn gofyn amdanynt ond y gwrthodwyd mynediad ati deirgwaith gan Ysbyty Athrofaol Cymru. Roedd y ddogfen hon yn atgyfnerthu eu honiad nad oedd Kelly a'i rhieni wedi rhoi cydsyniad gwybodus cyn llawdriniaeth; nid oeddent wedi cael y ffeithiau llawn. Roedd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn feirniadol iawn o'r ddau feddyg ynglŷn â'r diffyg cyfathrebu gyda'r claf a'r rhieni a chynghorodd un i drafod y methiant hwn gyda'r ymddiriedolaeth.
Weinidog, mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi ceisio newid diwylliant atebolrwydd yn y byrddau iechyd a'r modd y maent yn ymateb i gwynion, a'r modd y maent yn ymdrin ag unioni camweddau ac iawndal. Felly, rwy'n gofyn a yw newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth, gan gynnwys deddfwriaeth sy'n effeithio ar gylch gwaith a phwerau'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus, wedi bod yn llwyddiannus. A all Llywodraeth Cymru ddangos hyn yn glir, neu a oes newid diwylliannol i'w wneud o hyd? Yn wir, mae profiad fy etholwyr wedi bod yn gwbl groes i'r hyn a fwriedir yn awr. Mae eu profiad wedi ymddangos iddynt hwy fel system o sefydliadau'n cau'r rhengoedd i amddiffyn eu hunain yn hytrach na sicrhau cyfiawnder a chamau unioni i achwynwyr. Mae ymatebion sy'n gwrthdaro ac anghysondebau gormodol drwy gydol y 15 mlynedd diwethaf, gyda llawer ohonynt wedi'u profi o blaid Kelly wedyn, yn tanio ac yn dwysáu diffyg ymddiriedaeth y teulu yn y systemau a'r sefydliadau hyn, ac mae'n anochel eu bod wedi cyfrannu at eu hymgais barhaus i geisio atebion a chamau unioni.
Weinidog, i gloi, 15 mlynedd ers i Garry Wilson ddod ataf gyda'i bryderon gwreiddiol am ei ferch Kelly, mae llawer o gwestiynau heb eu hateb o hyd: gwybodaeth a gafodd ei chadw rhagddynt neu ei dal yn ôl neu sydd wedi diflannu; atebion mewn perthynas â'r wybodaeth, a oedd yn aneglur, neu'n wir wedi ei newid dros amser; ymchwiliad posibl gan yr heddlu, wedi ei atal rhag mynd rhagddo yn ôl pob tebyg oherwydd absenoldeb y wybodaeth hanfodol hon. Ond yn fwyaf oll, Weinidog, bywyd menyw ifanc wedi cael ei newid am byth; teulu sydd wedi bod drwy gythrwfl emosiynol ac aflonyddwch domestig ers blynyddoedd; chwilio parhaus am atebion i gwestiynau y dylid bod wedi'u hateb flynyddoedd yn ôl; ac ar yr union adeg pan ddylai sefydliadau cyhoeddus fod wedi bod ar eu hochr yn eu helpu drwy'r argyfwng hwn, yn unioni pethau, yn dysgu gwersi a fyddai'n atal hyn rhag digwydd i deuluoedd eraill, cred barhaol y teulu fod y sefydliadau hynny wedi gwneud y gwrthwyneb. Fe wnaethant gau'r rhengoedd ac amddiffyn eu hunain rhag beirniadaeth a bai. Felly, Weinidog, pa obaith y gallwn ei roi i Kelly a'i theulu y cânt yr atebion y maent yn eu ceisio? Yn olaf, pa obaith y gallwn ei roi fod y diwylliant hwn o gau'r rhengoedd yn bendant wedi newid fel na fydd achosion trasig fel hyn byth yn digwydd yn y dyfodol?