Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 10 Mawrth 2021.
Mae'n arwyddocaol fod y trefniadau newydd wedi cyflwyno un dull cyson o raddio ac ymchwilio i bryderon. Unwaith eto, mae'n rhoi pwyslais cryf ar ddiogelwch a phrofiad cleifion. Gwella diogelwch a phrofiadau yw amcanion y broses gwyno yn awr. Er enghraifft, mae'n ofynnol i holl ddarparwyr y GIG adrodd ar y nifer a'r mathau o bryderon a gaiff eu mynegi bob blwyddyn, er mwyn crynhoi'r camau a gymerir i wella gwasanaethau o ganlyniad, a faint o achwynwyr a gafodd eu hysbysu.
Credaf ein bod yn briodol falch fod gennym ni yng Nghymru drefniadau unioni camweddau GIG yn awr a gyflwynwyd fel rhan o 'Gweithio i Wella' yn 2011. Ni yw'r unig wlad yn y DU i weithredu cynllun o'r fath. Mae'n darparu cyngor cyfreithiol annibynnol am ddim, a chyfarwyddyd arbenigwyr clinigol annibynnol i gleifion pan ddaw'n amlwg, wrth ymchwilio i gŵyn, fod corff GIG neu'r driniaeth a ddarparodd wedi bod yn esgeulus neu y gallai fod wedi bod yn esgeulus a bod hawliad yn werth hyd at £25,000. Mae ein proses unioni camweddau wedi llwyddo i wella mynediad at gyfiawnder i gleifion sydd â hawliadau esgeulustod clinigol. Mae hefyd yn arwain at ddatrys hawliadau posibl yn llawer cyflymach o gymharu â'r broses ymgyfreitha draddodiadol. Ac mae'n golygu bod costau datrys hawliadau ariannol gwerth isel yn gymesur â'r iawndal a ddyfernir.
Er bod 'Gweithio i Wella' wedi ailwampio'n llwyr yr hyn a oedd yn system hen ffasiwn ar gyfer ymdrin â chwynion y GIG, nid ydym wedi sefyll yn ein hunfan. Adolygwyd y broses 'Gweithio i Wella' gan Keith Evans yn ei adroddiad, 'Defnyddio Cwynion yn Rhodd', a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2014. Daeth yr adolygiad hwnnw i'r casgliad bod 'Gweithio i Wella' yn broses gadarn, ond gwnaeth argymhellion ar gyfer gwelliannau. Roedd un o'r materion yn ymwneud â llwyfan cenedlaethol i gasglu data cwynion mewn ffordd gyson, ac mae'r GIG, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, wrthi'n gweithio ar system rheoli pryderon 'unwaith i Gymru' a ddylai helpu i safoni ymhellach y ffordd y mae cyrff y GIG yng Nghymru yn cofnodi eu data cwynion a phryderon.
Bydd hynny'n sicrhau mwy o gysondeb eto i'r ffordd y caiff data ei gofnodi a'i adrodd ledled Cymru. Fodd bynnag, bydd y cam mawr nesaf ymlaen i'w weld pan fyddwn yn gweithredu Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn llawn ac yn rhoi dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd mewn grym. Fel y gŵyr yr Aelodau, bydd y ddyletswydd ansawdd newydd yn berthnasol i holl gyrff y GIG yng Nghymru. Mae'n ei gwneud yn ofynnol iddynt arfer eu swyddogaethau gyda'r nod o sicrhau gwelliant yn ansawdd gwasanaethau iechyd. Diffinnir 'ansawdd' yn y Ddeddf i gynnwys profiad cleifion yn benodol, a fyddai'n cwmpasu profiad o ddefnyddio prosesau a gweithdrefnau cwyno.
Ceir tystiolaeth ryngwladol fod cysylltiad rhwng mwy o onestrwydd a thryloywder a darparu gofal o ansawdd uwch. Mae sefydliadau sydd â diwylliannau agored a thryloyw yn fwy tebygol o dreulio amser yn dysgu o ddigwyddiadau, ac maent yn fwy tebygol o fod â phrosesau ar waith i gefnogi staff a defnyddwyr gwasanaethau pan aiff pethau o chwith, fel y byddant yn ei wneud o bryd i'w gilydd, oherwydd mae'n anochel wrth ddarparu gwasanaethau cymhleth fod pethau weithiau'n mynd o chwith. Ond pan fyddant yn gwneud hynny, mae'r ffordd y mae sefydliadau'n ymdrin â'r sefyllfaoedd hynny'n dod yn bwysig iawn, a gall wneud gwahaniaeth enfawr i brofiad pobl a'u perthynas barhaus â'r darparwr gofal. Mae hynny'n hollbwysig mewn lleoliadau gofal iechyd, lle mae cleifion yn aml angen cael y cysylltiadau parhaus hynny.
Yn gyffredinol, mae cleifion a defnyddwyr gwasanaethau am gael gwybod yn onest beth ddigwyddodd, a chael sicrwydd fod popeth yn cael ei wneud i ddysgu o'r hyn sydd wedi mynd o chwith a dyna pam ein bod yn cyflwyno dyletswydd gonestrwydd yng Nghymru. O dan amodau'r Ddeddf a basiwyd yn nhymor y Senedd hon, bydd yn berthnasol i holl gyrff y GIG ac i ddarparwyr gofal sylfaenol yng Nghymru, a darparwyr gofal iechyd annibynnol yng Nghymru, drwy reoliadau a wneir o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Bydd y ddyletswydd yn adeiladu ar yr egwyddorion 'bod yn agored' ym mhroses bresennol 'Gweithio i Wella' ac yn eu cadarnhau.
Hoffwn ddweud bod yr Aelod wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol am ei etholwr na allaf eu hateb yn y ddadl hon. Bydd fy swyddogion yn adolygu'r Cofnod, ond efallai y bydd o gymorth os gwnaiff yr Aelod roi'r rheini ar ffurf llythyr hefyd, fel y gallaf ymateb yn iawn iddo, er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu colli yn y Cofnod, neu'r potensial i'r cyfnod cyn yr etholiad dorri ar draws y gwaith hwnnw, oherwydd rwyf am sicrhau nad ydym yn colli golwg ar yr unigolyn a'i theulu y mae'r Aelod wedi codi materion ar eu rhan heddiw.
Ond rwyf am ailadrodd pwysigrwydd gweithdrefnau cwyno cadarn, agored a gonest, ochr yn ochr â dyletswydd gonestrwydd, a gallaf ddweud yn glir iawn ei bod yn wir ddrwg gennyf fod etholwyr yr Aelod—y teulu hwn—wedi cael profiad mor wael o ofal y GIG a'r broses gwyno. Ers hynny, mae ein prosesau cwyno yma yng Nghymru wedi newid yn fawr, ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd i sicrhau ein bod yn parhau i wella, mwy i'w wneud gyda chyflwyno'r ddyletswydd gonestrwydd yn ymarferol, a'n nod cyffredinol yw gwrando, dysgu a gwella. Yn y dyfodol, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod, teuluoedd eraill ac etholwyr eraill ledled Cymru yn gweld proses well ar gyfer gofal a'r profiad wedyn os aiff pethau o chwith. Diolch am eich amser heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd.