Tanwyddau Gwyrddach

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:06, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, er ei bod yn hanfodol ein bod yn datgarboneiddio ein seilwaith ynni a thrafnidiaeth cyn gynted â phosibl, mae hefyd yr un mor bwysig nad ydym yn creu problemau eraill yn ein hymdrech i leihau allyriadau carbon. Er bod biomas yn garbon niwtral, gall hefyd greu problemau gydag ansawdd aer oherwydd bod mwy o ronynnau'n cael eu rhyddhau. Bydd symud i drafnidiaeth drydan yn mynd i'r afael ag ansawdd aer a charbon deuocsid cynyddol, ond bydd yn arwain at gynnydd mewn e-wastraff a'r galw am fetelau sy'n cael eu cloddio ar gost enfawr i'n hecoleg fregus. Weinidog, pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nad yw datgarboneiddio'n arwain at niwed ecolegol mewn mannau eraill? Diolch.