Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 10 Mawrth 2021.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Mae'r ffordd rydym yn trin anifeiliaid yn arwydd o'r math o gymdeithas ydym ni. Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol yn sicrhau bod fersiwn well o gyfraith Lucy yn cael ei chyflwyno y mis hwn, pa gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru i wahardd pobl rhag bod yn berchen ar brimatiaid, cyflwyno teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai, a gwella lles cwningod a cheffylau?