Llunio Polisïau ar Sail Tystiolaeth

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:59, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bolisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Er mwyn galluogi hyn, rwyf wedi comisiynu ystod o raglenni tystiolaeth, gan gynnwys rhaglen monitro a modelu’r amgylchedd a materion gwledig, ac mae fy swyddogion yn ymgysylltu â phartneriaid ymchwil ledled y DU, gan gynnwys mynd ati’n weithredol i ddylanwadu ar ein cyllideb ymchwil a datblygu a rennir gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.