Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 10 Mawrth 2021.
Diolch am hynna. Mi fyddwn i'n ddiolchgar petaech chi'n medru cadarnhau heddiw mai cyfrifoldeb y cwmni Fortem ydy gweithio i unioni'r broblem, neu'r problemau, a dweud y gwir. Dylai perchnogion tai ddim ond defnyddio'r warant fel y cam olaf yn unig, petai Fortem a Llywodraeth Cymru yn methu â datrys y problemau mewn ffordd foddhaol ac o fewn amserlen resymol. Fedrwch chi jest gadarnhau hynny, er tawelwch meddwl, os gwelwch yn dda?
Dwi'n falch eich bod chi wedi sôn a rhoi dyddiad penodol i ni yn fynna. Mae yna bryder ymysg etholwyr y gallai oedi pellach ac effaith yr etholiadau ym mis Mai weld y mater yma yn parhau i fod heb ei ddatrys, a dydy hynny ddim yn deg o gwbl arnyn nhw.
Mae'r broblem yn un llawer mwy na'r paent ar y waliau allanol, ac mae fy etholwyr i yn Neiniolen, Dinorwig, Carmel a'r Fron yn gresynu bod ffocws eich llythyrau diweddar chi i mi yn canolbwyntio ar hynny. Mae yna lu o broblemau yn codi o safon ddiffygiol o waith drwyddi draw, ac mae'r rheini i gyd angen cael sylw.