Tai Cymdeithasol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:55, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Yn ogystal â rhoi cartrefi addas i'r diben i bobl sy'n agored i niwed, mae'r grant tai cymdeithasol hefyd wedi helpu i adfywio safleoedd allweddol sy'n ddiffaith a segur, sydd i'w gweld yn aml mewn mannau amlwg iawn yn ein cymunedau. Un enghraifft yn fy etholaeth i yw'r adeilad segur ar Stryd Rhydychen yng nghanol y dref yn Aberpennar, safle y mae Tai Cynon Taf yn ei droi'n fflatiau un ystafell wely mawr eu hangen drwy'r grant. Weinidog, gwn eich bod wedi cofnodi cyn hyn eich ymrwymiad i barhau i ddarparu cartrefi cymdeithasol i'w rhentu yn nhymor nesaf y Senedd, ond a ydych yn cytuno â mi y gall cynlluniau o'r fath hefyd fod yn ysgogiad allweddol i drawsnewid a gwella ein cymunedau i'r holl drigolion?