Addasiadau i'r Cartref i Bobl Hŷn

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:19, 10 Mawrth 2021

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Fe wnaf i wneud y pwynt a dweud y gwir nad dim ond pobl hŷn sy'n gallu elwa o addasiadau i'r catref. Dwi'n cymeradwyo'r Motor Neurone Disease Association am yr ymgyrch maen nhw'n ei rhedeg ar hyn o bryd yn gwthio am fwy o addasiadau i'r cartref i bobl sy'n byw efo'r afiechyd hwnnw. Ond at bobl hŷn yn benodol, rydyn ni'n gwybod bod pobl hŷn yn syrthio yn costio yn ddrud iawn i'r NHS—dros £2 biliwn i'r NHS drwy Brydain. Rydyn ni'n gwybod y gall addasiadau i'r cartref leihau anafiadau o gymaint â 26 y cant. Rŵan, o ystyried bod pobl wedi bod yn treulio mwy o amser yn eu cartrefi yn ystod y pandemig yma, a all y Gweinidog ddweud wrthym ni beth ydy'r sefyllfa o ran backlog o addasiadau tai sydd wedi cael ei greu gan y pandemig, a beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â hyn, oherwydd yr help mae addasiadau yn gallu eu darparu o ran byw'n iach ac yn annibynnol?