Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 10 Mawrth 2021.
Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod angen inni weld aileni tai cymdeithasol yn y 2020au, gan adeiladu yn ôl tueddiadau hanesyddol, neu'n uwch na hynny os oes modd? Ac a ydych chi, fel fi, yn pryderu'n benodol am y grŵp newydd hwnnw: pobl yn eu 30au a'u 40au ar incwm da ond heb gyfoeth teuluol na allant gael mynediad at y farchnad i brynu cartrefi teuluol, er anfantais fawr i'w plant?