Blaenoriaethau ar gyfer y Sector Tai

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:06, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Diolch yn fawr iawn, Paul. Mae tai fforddiadwy—ac yn fwy penodol, tai cymdeithasol—yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i mi a’r Llywodraeth hon ar gyfer Cymru gyfan. Ein nod yw eu hadeiladu'n well, adeiladu mwy ohonynt, a'u hadeiladu'n gyflymach. Cydnabyddir hyn gan ein buddsoddiad mwy nag erioed o £2 biliwn mewn tai fforddiadwy yn nhymor y Senedd hon.