Polisi Cynllunio

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:11, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Russell. Rwy'n ymwybodol fod fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr amgylchedd, wedi cyhoeddi moratoriwm yn y dyfodol ar safleoedd troi gwastraff yn ynni, neu losgyddion fel y'u gelwir. Gan nad yw hyn yn fy mhortffolio, mae arnaf ofn nad wyf yn ymwybodol a fydd yn weithredol ar unwaith ai peidio. Os hoffech ysgrifennu ataf i ofyn beth yw statws y cais cynllunio yn sgil y moratoriwm hwnnw, fe wnaf yn siŵr bod fy swyddogion yn ei drin fel mater brys. Mae arnaf ofn nad yw’r wybodaeth honno gennyf wrth law.