Y Broses Gynllunio

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 3:04, 10 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, diolch am eich ateb. A gaf fi ddiolch i chi a'ch Dirprwy Weinidog am gyfarfod â Chyngor Cymuned Pen-y-ffordd a minnau ar ddechrau'r flwyddyn? Credaf mai'r hyn sy'n amlwg yw bod y cyngor a'r gymuned—trigolion cymuned Pen-y-ffordd—ac yn ddigon teg, dylwn ddweud, yn teimlo bod Arolygiaeth Gynllunio Cymru wedi gwneud tro gwael â hwy. Er i brosiectau sylweddol gael eu derbyn gan yr arolygiaeth, nid yw gwleidyddion lleol a thrigolion y gymuned wedi cael ateb hyd yn oed. Felly, gyda hynny mewn golwg, Weinidog, pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i ddiwygio'r ffordd y mae'r Arolygiaeth Gynllunio’n gweithredu, er mwyn sicrhau bod pobl yn gwrando ar leisiau cymunedau fel Pen-y-ffordd?