5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diabetes Math 2

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 10 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:34, 10 Mawrth 2021

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ac mae'n hyfrydwch i ymateb i'r ddadl, gan fod y Gweinidog newydd wneud y cyhoeddiad yna—bendigedig. Mae pobl weithiau'n amau dilysrwydd cynnal dadleuon o'r math yma—rydyn ni Aelodau cyffredin meinciau cefn weithiau yn cael ein dilorni braidd—ond dyma wireddu breuddwydion, fel y mae Jenny Rathbone wedi ei gael, ac i fod yn deg â Jenny, mae wedi bod wrthi am flynyddoedd ar yr agenda ataliol yma. Dwi'n falch cydnabod cyhoeddiad Eluned Morgan heddiw, achos mae hyn yn ffordd adeiladol ymlaen yn wir ac yn ddefnydd da iawn o'r math yma o ddadl yn y Senedd. Felly dwi'n barod iawn i dalu teyrnged i Jenny Rathbone am ei dycnwch dros y blynyddoedd, yn arwain ar yr agenda yma, a hefyd i Jayne Bryant, fel cadeirydd y grŵp aml-bleidiol ar glefyd siwgr, sydd hefyd yn gwneud gwaith arbennig, ac wrth gwrs yn cyfarch cyhoeddiad y Gweinidog jest nawr. Mae £6 miliwn yn ateb bendigedig i'r ddadl yma, achos dyma'r agenda ataliol hollbwysig. 'Prevention is better than cure,' rydym ni wastad yn ei ddweud e, ond dydyn ni ddim yn ei weithredu fe yn aml iawn, yr agenda ataliol. A dwi hefyd yn mynd i dalu teyrnged i nifer fawr o fudiadau sydd yn gwneud y gwaith ataliol yma yn y maes, pobl fel Diabetes UK Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon, y Gymdeithas Strôc, ac ati, ac ati. Does gen i ddim mo'r amser i'w rhestru nhw i gyd.

A'r pwysigrwydd allweddol yn yr agenda ataliol: atal clefydau rhag digwydd yn y lle cyntaf. Mae yna nifer o ffactorau ymddygiadol, fel roedd Jenny yn ei ddweud, nifer o wahanol ffactorau ymddygiadol a chymdeithasol sy'n gweu efo'i gilydd. Ac yng nghyd-destun clefyd siwgr, sydd, wrth gwrs, yn un o'r clefydau hynny sydd yn cyd-ddigwydd efo COVID, fel rydym ni wedi clywed, ac, o fod efo clefyd siwgr, rydych chi'n fwy tebygol o gael COVID yn ddrwg. Dyna beth yw perthnasedd y ddadl yma. Rydych chi'n mynd i gael COVID yn waeth efo clefyd y siwgr, yn ystadegol felly.

Mae sgiliau, felly, hyrwyddo yr agenda ataliol yma yn hollbwysig, fel sydd i'w darganfod yn y prosiect yma yn nyffryn Afan—sgiliau coginio, sgiliau byw, deiet. Ie, dylen ni gyd fod yn gwybod bod siwgr yn ddrwg i ni erbyn rŵan, er ein bod ni'n dal i fwyta peth, ond mae carbs—'startsh' fydden ni'n arfer galw'r stwff pan oeddwn i yn ysgol Llanbedr ers llawer dydd—mae'r rheini cynddrwg, achos mae carbs yn cael eu trosi i mewn i siwgr yn ein cyrff. Dyna beth mae'r afu yn ei wneud. Un o nifer o bethau mae'r afu yn ei wneud ydy troi carbs yn siwgr. Felly, gall carbs hefyd fod cynddrwg o fwyta gormod ohonyn nhw.

A braster. Ie, mae braster yn ddrwg i ni mewn gormodedd, ond mae angen lefel o fraster arnom ni hefyd. Felly, mae'r cyngor yn subtle iawn, a dyma'r math o gyngor sydd ar gael yn y cynllun yna yn nyffryn Afan—cyngor ar beth i'w fwyta, sut i gadw'n heini. Prosiect llwyddiannus sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r ateb gyda ni felly yn nyffryn Afan, ac mewn sawl lle arall. Angen ei rolio fo allan a gweithredu'n genedlaethol, fel mae'r Gweinidog newydd amlinellu. So, dwi'n disgwyl gweld gwireddu y dyhead yma rŵan o'r cychwyn bendigedig yma yn nyffryn Afan.

Felly, wrth gloi, a allaf i ddiolch i bawb am eu cyfraniadau? Diolch yn arbennig i'r Gweinidog am wneud y cyhoeddiad yna o'r arian, a'i gwneud hi'n orfodol i ni feddwl yn fwy adeiladol ynglŷn â'r dadleuon Aelodau unigol yma; mae nhw'n gallu cyflawni gwyrthiau. Felly, dwi'n llongyfarch y Gweinidog, dwi'n llongyfarch y Llywodraeth, ac yn bennaf oll, dwi'n llongyfarch Jenny Rathbone am redeg efo'r agenda yma cyhyd. Cefnogwch y cynnig felly. Diolch yn fawr iawn i chi.