Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 16 Mawrth 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn 2016, fe wnaeth y Senedd ddeddfu ar gyfer y targed lleihau allyriadau statudol cyntaf i Gymru i leihau allyriadau gan o leiaf 80 y cant yn 2050. Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth y Senedd ddeddfu ar gyfer tri tharged allyriadau dros dro a dwy gyllideb garbon gyntaf Cymru, a wnaeth ein rhoi ar y trywydd iawn ar gyfer yr 80 y cant. Ers hynny, daeth Cymru y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Rydym wedi gweld effaith gynyddol hinsawdd sy'n cynhesu yng Nghymru ar ffurf llifogydd, tirlithriadau a'r effaith ar ein hamgylchedd morol. Rydym wedi gwrando ar bobl o bob oed a chefndir, sy'n mynnu gweld gweithredu i ddiogelu treftadaeth naturiol Cymru a'n cymunedau, yn ogystal ag ecosystemau mwyaf hanfodol y byd. Mae'n iawn, felly, i ni ailedrych ar ein targedau hinsawdd cyn i dymor hwn y Senedd ddirwyn i ben.
Fel bob amser, rydym ni wedi ein harwain gan uchelgais ac, yn hollbwysig, gan dystiolaeth. Pan roddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd gyngor i Lywodraeth Cymru fabwysiadu targed o 95 y cant ar gyfer lleihau allyriadau, derbyniais eu cyngor gan hefyd nodi ein huchelgais i ddod o hyd i ffyrdd o fynd ymhellach. Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn glir bod y targed lleihau o 95 y cant ar gyfer Cymru yn gofyn am yr un lefel o ymdrech, a llawer o'r un camau gweithredu, a oedd yn ofynnol gan wledydd eraill i gyrraedd eu targedau nhw. Nid dal i fyny oedd fy uchelgais i, gan nad oeddem ni erioed wedi syrthio ar ei hôl hi, ond yn hytrach i Gymru arwain y ffordd. Cefais gyngor ac argymhellion gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd ym mis Rhagfyr, ac roeddwn i'n falch eu bod wedi gallu cadarnhau ein huchelgais ar gyfer targed sero net i Gymru sy'n gyson ag ysbryd cytundeb hinsawdd Paris. Mae'n gredadwy ac yn fforddiadwy, yn seiliedig ar y dystiolaeth.
Cynhyrchodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd hefyd argymhellion ar gyfer ein targedau dros dro a'n dwy gyllideb garbon nesaf. Nododd y pwyllgor yn fanwl sut yr oedden nhw o'r farn y gall Cymru gyflawni'r targedau newydd, eu glasbrint. Wrth gwrs, mae lle ar gyfer technolegau carbon isel a dim carbon newydd ac arloesol, ond mae maint yr her yn golygu na fydd atebion technolegol yn unig yn ddigonol. Bydd angen pob corff cyhoeddus, busnes a chymuned yng Nghymru er mwyn i ni lwyddo i gyflawni'r newid cymdeithasol sydd ei angen i gyflawni ein nodau hinsawdd cynyddol uchelgeisiol.
Cafodd cyngor y pwyllgor ei lywio gan ddau ddigwyddiad ymgynghori yng Nghymru, ochr yn ochr â galwad am dystiolaeth. Rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at y broses hon ac a wnaeth y cyngor mor gadarn â phosibl. Rwyf i hefyd yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig am ystyried y rheoliadau drafft ac am argymell bod y Senedd yn eu cymeradwyo. Ar gais y pwyllgor cytunais i ohirio'r ddadl heddiw er mwyn caniatáu mwy o amser i graffu. O ganlyniad, os caiff y rheoliadau eu cymeradwyo heddiw, Dirprwy Lywydd, bydd angen i mi ddiwygio'r dyddiad y byddant yn dod i rym cyn eu llofnodi.
Os bydd y Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau, bydd Cymru yn ymuno â nifer fach iawn o wledydd ledled y byd sydd â tharged sero-net yn y gyfraith. Bydd Cymru yn gweithredu mewn undod â'r gwledydd hynny sy'n profi effeithiau hinsawdd mwy dinistriol fyth nag yr ydym ni'n eu gweld ar hyn o bryd yng Nghymru, ond nad ydyn nhw wedi elwa ar yr economi carbon uchel sydd wedi achosi'r broblem yn y lle cyntaf. Bydd Cymru yn gweithio gyda'n partneriaid rhyngwladol i ysgogi gweithredu gan wledydd, gwladwriaethau a rhanbarthau ledled y byd, cyn cynhadledd COP26 hollbwysig y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow yn ddiweddarach eleni.
Rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i wthio terfynau ein pwerau datganoledig i sicrhau newid teg a chlir i sero net. Mae angen gweithredu gan Lywodraeth y DU hefyd fel y gall holl wledydd y DU barhau i ddatblygu nodau hinsawdd cynyddol uchelgeisiol, a chyflawni'r camau gweithredu sydd eu hangen i'w cyflawni. Yn ystod y misoedd diwethaf rydym ni wedi sefydlu grŵp gweinidogol rheolaidd, pedair gwlad i lywio'r gwaith o gyflawni sero-net. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r ymgysylltu hwn i gydweithio ledled y DU, ac i bob gwlad herio a chefnogi ei gilydd i fynd ymhellach. Bydd angen cyfraniad cryf arnom ni gan Lywodraeth y DU os yw Cymru am gyrraedd y targedau newydd hyn mewn modd sy'n sicrhau cyfiawnder cymdeithasol o gofio mai eu cyfrifoldeb wedi ei gadw yn ôl hwy yw llawer o'r meysydd polisi hanfodol yn bennaf, megis cynhyrchu ynni a'r fframwaith cyllidol cyffredinol y mae Llywodraethau datganoledig yn gweithredu oddi mewn iddo.
Rydym ni wedi ymgysylltu yn eang i ddatblygu'r cynllun cyflawni i fodloni cyllideb garbon nesaf Cymru, sydd i'w chyhoeddi erbyn diwedd 2021 yn nhymor newydd y Senedd. Mae'r ymgysylltu hwn yn cynnwys Wythnos Hinsawdd Cymru fis Tachwedd diwethaf, pan gyfrannodd dros 2,000 o bobl at y trafodaethau am gynllun cyflawni nesaf Cymru. Yn fwy diweddar, rydym ni wedi cefnogi sefydlu cynulliad dinasyddion ar yr hinsawdd ym Mlaenau Gwent, ac rydym yn gobeithio y gall hynny fod yn dempled ar gyfer darparu cyfleoedd newydd i gymunedau lunio gweithredu ar gyfer yr hinsawdd yn uniongyrchol ar lefel genedlaethol. Yr haf diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi ein cynllun ymgysylltu a oedd yn nodi ein hymrwymiad i weithio gyda chyrff cyhoeddus, busnesau a chymunedau i lunio cynllun ar gyfer Cymru gyfan. Yn ogystal â digwyddiadau ymgysylltu, rydym yn gwahodd eraill i gynnwys eu gweithredoedd yn y cynllun ei hun, sy'n golygu nad cynllun gan y Llywodraeth yn unig yw'r cynllun, ond cynllun a gaiff ei ddatblygu a'i gyflawni gan Gymru gyfan.
Ni all y rheoliadau sydd gerbron y Senedd heddiw fod yn derfyn ar ein huchelgais, ond rwy'n credu eu bod yn gam nesaf hanfodol i sicrhau'r dilyniant yr ydym ni wedi ei gyflawni yn ystod y tair blynedd diwethaf. Bydd gosod fframwaith cyfreithiol cyntaf Cymru ar gyfer targed sero-net yn gam mawr ymlaen, ac yn sail gref i gydweithio ar draws economi a chymdeithas Cymru er mwyn parhau i gyflymu'r camau a gymerwn. Dirprwy Lywydd, cymeradwyaf y rheoliadau hyn i'r Senedd.