Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 16 Mawrth 2021.
Diolch. Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Gosodwyd y rheoliadau ar 9 Chwefror. Y diwrnod canlynol, fe wnaethom ni ysgrifennu at y Gweinidog yn unol â Rheol Sefydlog 27.8 i'w hysbysu y byddem ni'n adrodd ar y rheoliadau. Rydym ni'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ohirio'r ddadl ar y rheoliadau am wythnos i'n galluogi i gyflwyno adroddiad. Fodd bynnag, mae gennym ni bryderon ehangach o hyd am y broses o wneud rheoliadau, gan gynnwys diffyg cyfle i graffu'n allanol ar y targedau carbon arfaethedig.
Er mwyn llywio ein gwaith craffu ar y rheoliadau, cawsom dystiolaeth gan Arglwydd Deben, cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, a chynrychiolwyr Cyfeillion y Ddaear a WWF Cymru. Hoffem ddiolch iddyn nhw am eu cyfraniad ac am gytuno i roi tystiolaeth ar fyr rybudd. Dywedodd y sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol wrthym y bydden nhw wedi hoffi gweld trafodaeth ehangach ar y targedau carbon arfaethedig, a bod mwy o amser yn cael ei neilltu i graffu arnyn nhw. Galwodd y Pwyllgor am yn union hynny pan adroddodd ar y gyfres gyntaf o reoliadau newid yn yr hinsawdd yn 2018. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried drafft o unrhyw reoliadau yn y dyfodol i hwyluso gwaith craffu y Senedd ac yn allanol, ac rydym yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â gwneud hyn.
Gan droi at fanylion y rheoliadau yn ein hadroddiad ar reoliadau 2018, fe wnaethom ni dynnu sylw at y ffaith nad oedd targed Cymru i leihau allyriadau gan 80 y cant i lefelau 1990 erbyn 2050 yn ddigonol i gyflawni nodau cytundeb Paris. Mae rheoliadau 2021 yn unioni hyn, gan osod targed i gyflawni sero-net erbyn 2050, targedau dros dro mwy uchelgeisiol a chyllidebau carbon tynnach. Mae'r targedau sero-net newydd yn dod â Chymru yn unol â gwledydd eraill y DU, ac rydym yn croesawu hynny'n fawr. Mae hyn yn arbennig o amserol wrth i'r DU baratoi i gynnal ar y cyd Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, COP26, ym mis Tachwedd.
Fodd bynnag, dywedodd cynrychiolwyr sector yr amgylchedd wrthym fod potensial i Gymru ddangos mwy o uchelgais, a mynd ymhellach fyth na'r targedau a nodir yn rheoliadau 2021. Rydym ni o'r farn bod rhinwedd mewn ailedrych ar y targedau maes o law, yn enwedig er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pandemig COVID-19 yn llwyr. Gosod targedau mwy uchelgeisiol yw'r rhan hawdd; bydd cyflawni'r targedau hynny, drwy gyfaddefiad Llywodraeth Cymru ei hun, yn eithriadol o heriol. Mae adroddiad cynnydd diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn nodi nad yw Cymru ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i sicrhau gostyngiad o 80 y cant, heb sôn am sero-net erbyn 2050. Mae'r pwyllgor wedi ei gwneud yn glir bod angen gweithredu ar draws pob maes a phob sector yn ddi-oed er mwyn cyflawni sero-net.
Gwyddom y bydd y targedau sero-net yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Er bod Llywodraeth Cymru wedi sôn am gynyddu ei hymdrechion a chynyddu graddfa a chyfradd yr ymdrech polisi, mae'n rhaid iddi bellach gyflawni ar yr addewidion hynny. Disgwyliwn i'r cynllun cyflawni carbon isel nesaf, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2021, adlewyrchu'r targedau newydd a mwy uchelgeisiol a nodir yn rheoliadau 2021. Bydd y cynllun yn hollbwysig nid yn unig i sicrhau bod cyllideb garbon 2021-25 yn cael ei chyflawni, ond y gellir cyrraedd targed dros dro 2030.
O ystyried arwyddocâd y cynllun, mae'n anhygoel na fyddai rhanddeiliaid ac Aelodau'r Senedd yn cael cyfle i ystyried y cynllun cyn iddo gael ei gwblhau yn derfynol. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn amharod i ymrwymo i ymgynghori ar ei drafft o'r cynllun. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru ailystyried y penderfyniad hwn a rhoi ymrwymiad mewn egwyddor i wneud hyn.
Yn olaf, mae ein gwaith craffu ar reoliadau 2018 a 2021 a'n gwaith ehangach ar y newid yn yr hinsawdd wedi amlygu gwendidau allweddol yn y fframwaith statudol ar gyfer lleihau allyriadau carbon. Mae ein hadroddiad ar reoliadau 2021 yn cyffwrdd â sut y gellir mynd i'r afael â'r gwendidau hyn. Rydym ni o'r farn bod darn mwy sylweddol o waith i'w wneud i adolygu'r fframwaith statudol, gyda'r bwriad o gyflwyno gweithdrefnau craffu mwy trwyadl, gwella tryloywder, a chryfhau trefniadau atebolrwydd. Rydym yn bwriadu cynnwys hyn yn ein hadroddiad etifeddiaeth, i'n pwyllgor olynol yn y chweched Senedd ei ystyried.
Rydym yn falch o argymell i'r Senedd ei bod yn cymeradwyo'r rheoliadau. Mater i'r chweched Senedd fydd sicrhau bod yr addewid o weithredu i gyrraedd y targedau newydd yn cael ei gyflawni. Diolch yn fawr, Llywydd.