Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 16 Mawrth 2021.
Diolch am y cwestiwn, Llywydd. Ers i Lywodraeth y DU wrthod cefnogi'r prosiect, cefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn ariannol ac yn wleidyddol, sydd wedi helpu’r tasglu lleol i gadw’r potensial ar gyfer datblygu morlyn llanw bae Abertawe yn fyw. Rydym yn parhau i weithio gydag eraill i ddatblygu’r achos o blaid ynni’r môr yng Nghymru.